Anti Karen yn cael ei dal gan Nigel Owens
DROS yr wythnosau diwethaf, mae tîm direidus Nigel Owens: Wyt ti’n Gêm? wedi bod yn chwarae pranciau ar hyd a lled Cymru. Yn y rhaglen nesaf ar nos Iau, 5 Hydref, un o’r targedau yw’r athrawes ddawns Karen Pritchard o Gaernarfon, neu Anti Karen i’r rhai sy’n ei hadnabod.
Mae Anti Karen wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn hyfforddi, perfformio a chystadlu ar draws y wlad, tra’n gweithio’n ddyfal ar agor adeilad pwrpasol ar gyfer yr ysgol ddawns. Ac ar ben hyn i gyd, mae criw ffilmio wedi’i dilyn bob cam o’r ffordd ar gyfer y gyfres Ysgol Ddawns Anti Karen sydd i’w gweld bob nos Wener ar S4C.Roedd yr holl waith caled i agor adeilad pwrpasol ar gyfer yr ysgol ddawns bron â mynd yn wastraff, neu dyna oedd Anti Karen yn ei feddwl pan wnaeth ‘Arolygwr Adeiladau’ o’r cyngor wneud asesiad a phenderfynu bod angen i’r adeilad gau. Ond wrth gwrs, un o dîm direidus Wyt ti’n Gêm? oedd yr arolygwr.
“Ro’n i jest yn meddwl ‘Beth ydw i’n mynd i ddweud wrth y plant?’ ac yn beio fy hun am freuddwydio yn rhy fawr. Dwi ddim yn siŵr os wnes i grio... roedd yr holl beth yn horrific! Pan wnes i sylweddoli mai pranc oedd yr holl beth, fe wnes i deimlo relief mawr, a mynd i wneud paned i’r criw ffilmio!”
Er y pranc, mae Anti Karen hefyd yn derbyn gwobr ‘Hoelen Wyth’ yn y rhaglen, sef gwobr am waith a chyfraniad unigolion arbennig i’w hardal leol. Nigel Owens - Wyt ti’n Gêm?: S4C, nos Iau 5 Hydref, 9.30