DYDD SUL BANG S4C, 9.30
YN rhaglen yr wythnos hon o Deuawdau Rhys Meirion, bydd y canwr gwerin o Gaerdydd a chyflwynydd Radio Wales, Frank Hennessy, yn dychwelyd i’w wreiddiau Gwyddelig.
Mae’r canwr poblogaidd a phrif leisydd grwp yr Hennessys yn teithio gyda Rhys Meirion i Iwerddon ac o gwmpas Caerdydd, i rai o’r lleoliadau sydd wedi dylanwadu arno fo a’i gerddoriaeth. Fe fydd y ddau yn canu deuawdau gyda’i gilydd, ac am y tro cyntaf, fe fyddwn yn clywed y tenor Rhys Meirion yn canu gwerin.
“Pan ffurfiwyd The Hennessys yn gyntaf, roedd pobl yn ein hadnabod ni fel y band Gwyddelig o Gaerdydd,” meddai Frank, sy’n adnabyddus am ei ganeuon Farewell to the Rhondda, Tiger Bay a Cardiff Born Cardiff Bred.
“Roedd Dave Burns a minnau yn dod o stoc Wyddelig ond yn eithaf cyflym fe benderfynwyd bod angen i ni ddysgu caneuon traddodiadol Cymreig. Er yn dod o Gaerdydd, doedd yr un ohonom ni yn nabod un!”
Yn y rhaglen, mae Rhys a Frank yn teithio ar long i Iwerddon ac yn benodol i Ardmore yn County Waterford – lle sy’n bwysig iawn i Frank.
“Mae Ardmore yn meddwl y byd i mi. Roedd gen i deulu yn byw yno a dyna le enillodd y band gystadleuaeth canu gwerin bron i 50 mlynedd yn ôl ym 1968. Ar ôl blwyddyn o fyw a pherfformio yno yn ystod y chwedegau, symudon ni yn ôl i Gaerdydd. Roedd steil y band wedi newid yn llwyr.
“Mae Caerdydd yn meddwl y byd i mi, dyma le ges i fy magu. Ar un adeg pan ro’n i’n blentyn doedd y brifddinas ddim yn lle rhy arbennig ond erbyn hyn mae ‘na ddeinameg i’r ddinas. Os cewch chi gyfle, ewch draw i farchnad Caerdydd. Dyna le ro’n i’n arfer mynd gyda fy arian poced bob dydd Sadwrn i brynu cocos. Wedyn draw i’r siop recordiau lle, nes ymlaen, byddai Eddie yn gwerthu ein rhai ni.
“Roedd bod yn rhan o’r gyfres yn gyffrous iawn i mi. Roedd cydweithio gyda dyn sydd â llais mor wych yn gymaint o hwyl,” meddai Frank Hennessy.
Yn y rhaglen, bydd Frank a Rhys yn canu deuawdau sy’n cynnwys ‘Os daw nghariad’ a ‘Gwaed ar eu dwylo’ ond a fydd llais y canwr gwerin yn cyd-fynd â llais y tenor? Deuawdau Rhys Meirion: S4C, nos Wener, 13 Hydref, 9.30