Caernarfon Herald

DYDD IAU NIGEL OWENS: WYT TI’N GêM? S4C, 9.30

-

MAE Philip yn poeni bod Dewi yn ymwneud â chyffuriau ac mae’n penderfynu cadw llygad arno.

Yn dilyn cyngor Jason, mae Dewi yn meddwl ei fod wedi llwyddo i dawelu ofnau Philip ond mae ei dad yn dysgu mai celwydd oedd y cyfan. Mae Philip a Mathew yn penderfynu dilyn Dewi, ac mae’r ddau yn cael sioc enfawr pan maen nhw’n darganfod beth mae Dewi wedi bod yn ei wneud yn ei amser sbâr.

Mae Carys yn teimlo’r pwysau o orfod jyglo gwaith a bod yn fam felly mae Barry yn cynnig camu i’r adwy – pwy fyddai wedi dychmygu’r ffasiwn beth?!

Mae Iolo yn sâl yn ei wely ac mae Llio wedi mynd i siopa efo Carys felly mae Cathryn yn mynd draw i’r tŷ i’w nyrsio. Ond cyn bo hir, nid annwyd yw unig broblem Iolo! Rownd a Rownd: 7.30, S4C

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom