DYDD SUL UN BORE MERCHER S4C, 9PM
MAE actorion yn aml yn cymryd camau eithafol i fynd dan groen eu cymeriadau – ernnill neu golli pwysau; lliwio gwallt, tyfu locsyn, neu wisgo colur arbennig. Ond mae Eve Myles wedi mynd gam ymhellach wrth baratoi ar gyfer ei rhan ddiweddaraf.
Mae’r actores, sy’n wreiddiol o Ystradgynlais, wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ar gyfer ei rhan yn Un Bore Mercher. Lleolir y ddrama mewn tref fechan dawel yn Sir Gaerfyrddin. Ond buan iawn daw’r cymeriadau i sylwi bod y dref hardd, oedd unwaith yn hafan ddelfrydol, yn gwarchod cyfrinachau tywyll.
Mae bywyd y prif gymeriad Faith Howells, a chwaraeir gan Eve Myles, yn cael ei drawsnewid yn llwyr wedi diflaniad annisgwyl a sydyn ei gŵr un bore Mercher. Wrth i Faith frwydro i ddarganfod y gwir tu ôl i’w ddiflaniad, daw cyfrinachau lu i’r wyneb ac mae’n dechrau cwestiynu os yw yn adnabod ei gŵr ei hun o gwbl.
Law yn llaw â’r darganfyddiadau am gyfrinachau ei gŵr mae’n ceisio cynnal ei theulu ifanc yn ogystal â chadw busnes cyfreithiol y teulu i fynd.
Mae dyfalbarhad Faith fel prif gymeriad yn cael ei adleisio gan yr actores Eve Myles sy’n ei phortreadu.
“Roedd rhywfaint o Gymraeg o’m cwmpas i ond Albanwr ydy fy nhad a doedden ni ddim yn siarad Cymraeg gartref o gwbl,” meddai Eve.
“Pan wnaeth cynhyrchwyr y gyfres gyflwyno’r syniad yn wreiddiol i mi a chrybwyll y byddai’r rhan yn y Gymraeg, mi wnes i wrthod. Ond mi wnaethon nhw gysylltu sawl gwaith a rhoi’r sgript o’m blaen i. Dechreuais ei darllen hi, ac allwn i ddim ei rhoi i lawr. Mi benderfynais i wedyn, y byddwn i’n gwneud unrhyw beth ar gyfer y rhan,” meddai Eve sy’n gyfarwydd iawn am ei rhannau yn nramâu rhwydwaith y BBC Torchwood, Broadchurch, Victoria a Little Dorrit.
“Mi oedd yn sialens enfawr i mi ddysgu’r sgript Gymraeg ar gyfer y rhan, ond dwi’n hoffi sialensiau a chael fy herio – a dyma yn sicr wnaeth y sgript a’r Gymraeg i mi. Does dim yn fwy o her na dysgu iaith a rhoi’r iaith honno mewn cymeriad a hefyd sefyll o flaen gweddill y cast a’r criw a’u hargyhoeddi ‘mod i’n gallu ei wneud,” meddai’r actores sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac yn briod â’r actor Bradley Freeguard a chanddynt ddwy ferch.
Crëwr ac awdur y gyfres ddrama yw Matthew Hall, sy’n awdur y cyfresi poblogaidd Kavanagh QC, Dalziel and Pascoe a New Street Law, ac yn gyn fargyfreithiwr ei hun.
Ymysg rhai o’r actorion eraill sy’n ymddangos ochr yn ochr â Eve Myles yn y ddrama, mae ei chydactor o’r gyfres Broadchurch – Matthew Gravelle sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd o’r gyfres Byw Celwydd ar S4C, Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, National Treasure, Yr Ymadawiad) a Mali Harries ac Aneirin Hughes (Y Gwyll). Un Bore Mercher: S4C, nos Sul, 5 Tachwedd, 9pm MAE Faith (Eve Myles) yn gyfreithwraig, mam a gwraig sy’n cael ei thynnu i mewn i ddirgelwch pan fo’i gŵr, Evan, yn diflannu. Wrth chwilio am y gwir, mae’n darganfod bod ganddo gyfrinachau lu ac mae’n dechrau cwestiynu a ydy hi’n ei adnabod o gwbl.