DYDD IAU
BRENIN ARTHUR S4C, 9.30
FEL rhan o fis Chwedlau S4C, Jon Gower sy’n olrhain hanes y brenin chwedlonol, arwr hynafol o Gymru sy’n enwog drwy’r byd. Ond pam mae’r Cymry’n gyndyn i dderbyn Arthur fel un ohonon ni? Dyma daith ar draws y wlad ac yn ôl dros y canrifoedd i gwrdd â’r brenin delfrydol.