Caernarfon Herald

Rownd a Rownd

11-17 Tachwedd

-

MAE bywydau Lowri a Kelvin ar chwâl ac mae Lowri’n mynd i’r carchar i’w weld.

Mae ganddi hi gwestiynau ac mae hi angen atebion ond beryg na fydd hi’n hoffi beth sydd gan Kelvin i’w ddweud.

Gan fod Iolo yn byw yn y fflat efo Philip a Mathew, mae Cathryn yn cwyno ei bod hi prin yn ei weld o.

Mae’r ddau yn trefnu noson i ffwrdd – ond gyda Cathryn yn ymddwyn yn od, mae Vince wedi dechrau poeni hwyrach y dylai fo wneud mwy o ymdrech hefyd.

Mae Barry’n teimlo’n rhwystredi­g bod Llio yn galw byth a beunydd.

Beth fydd ymateb Carys i’w gwynion tybed? Rownd a Rownd: Mercher ac Iau 7.30, S4C. Noder bod newid i’r diwrnod wythnos yma!

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom