Trystan yn ei elfen yn yr Ŵyl Gerdd Dant
MAE cerdd dant yn unigryw i ni fel Cymry, ac mor boblogaidd ag erioed. Uchafbwynt calendr pob un sy’n ymddiddori yn y grefft yw’r Ŵyl Cerdd Dant, ac eleni cynhelir yr Ŵyl ar safle newydd Ysgol Bro Teifi, Llandysul, ddydd Sadwrn nesaf (Tach 11).
Gallwch ddilyn holl gyffro’r cystadlu am 2.00 a 7.30 ar S4C, ac arlein ar s4c.cymru rhwng 4.35 a 7.30.
Trystan Ellis-Morris fydd yn dychwelyd i gyflwyno o’r Ŵyl, a hynny am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Yn ymuno ag o fydd dau gyflwynydd arall sydd wedi hen arfer â llywio gwylwyr S4C drwy’r cystadlu yn yr Ŵyl. Bydd Nia Roberts yn arwain y cyfan yn y stiwdio a Morgan Jones yn sylwebu ar yr holl gystadlu.
“Dwi’n meddwl bod yr Ŵyl Cerdd Dant mor bwysig,” meddai Trystan.
“Mae o’n draddodiad arbennig, fedri di ddim ei gymharu fo â dim byd arall, ac mae’n bwysig fod y traddodiad a’r Ŵyl yn parhau.
“Bydd hi’n ddiwrnod hir o gystadlu, yn cychwyn ben bore ac yn gorffen yn hwyr ar nos Sadwrn. Bydda i’n cyfweld â chystadleuwyr cyn iddyn nhw fynd ar y llwyfan ac yn cael eu hymateb nhw wedi iddyn nhw gystadlu,” meddai Trystan, sydd wrth ei fodd yn cwrdd â chymeriadau gefn llwyfan.
“Gan fy mod i’n gweithio ar y digwyddiad bob blwyddyn, dwi’n teimlo ‘mod i’n gweld hen ffrindiau eto, ac mae mor neis gweld perfformiad y bobl ifanc yn datblygu bob blwyddyn. Ond gan ‘mod i gefn llwyfan, dwi’n methu allan ar wylio dipyn o’r cystadlu, felly bob blwyddyn mi fydda i’n gwylio’r cystadlu eto ar wefan S4C i’w werthfawrogi’n iawn!” ychwanega Trystan, sy’n wreiddiol o Ddeiniolen ond bellach yn byw yn Llundain.
Mae Trystan yn edrych ymlaen at ddychwelyd adref i Gymru, i fod yn rhan o ŵyl sydd mor bwysig iddo.
Yr uchafbwynt i Trystan yw cys- tadleuaeth y triawdau neu bedwarawdau.
“Mae’n hoff o gystadlaethau’r corau a’r partïon hefyd, am fod ‘na dipyn o gythraul canu rhwng y cystadleuwyr. Ond yr hyn sy’n codi calon Trystan yw diddordeb pobl ifanc yn yr hen draddodiadau.
“Mae ‘na gymaint o bobl ifanc yn dod bob blwyddyn, a chymaint o ddiddordeb yn y traddodiad. Mae hynny mor bwysig, ac mae hi’n braf gweld y to ifanc yn cael hwyl mor dda arni.
“Weithiau mi welwch chi’r plant yn cystadlu yn erbyn eu rhieni! Mae ‘na gymaint o bobl ifanc yn gosod ceinciau, ac yn canu eu gosodiadau eu hunain hefyd. Mae’n hyfryd gweld y traddodiad yn ffynnu.” Gŵyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro 2017: S4C, dydd Sadwrn 2.00 a 7.30, S4C Darllediad byw ar wefan s4c.cymru rhwng 4.35 a 7.30