LLWYNDYRUS
MERCHED Y WAWR: Nos Fawrth, Tachwedd 7 cafwyd noson arbennig iawn, gyda phob aelod yn creu gosodiad hardd o flodau gyda rhosynnau a gwyrddni ffres, dan arweiniad y wraig gwadd Jean Williams a’i ffrind Iola Jones o Efailnewydd. Cafwyd paned a bisgedi dan ofal Eleri Hughes a Meinir Roberts, ac ennillwyd raffl y noson gan Ann Thomas. Talwyd y diolchiadau ar ran y gangen, gan Elisabeth Wiliams. Mis nesaf byddem yn cyfarfod ar Nos Fawrth Rhagfyr 5ed yn Tu Hwnt i’r Afon, Rhydyclafdy am 7y. i fwynhau cinio Nadolig y gangen.