Rownd a Rownd
18-24 Tachwedd
TRA bo Iolo a Cathryn (dde) yn paratoi i fynd i Warrington am noson, mae Vince yn penderfynu troi at Meical am gyngor, cyn dewis delio efo’r sefyllfa mewn ffordd hynod fyrbwyll ac anghyfrifol!
Mae’r ffaith bod Kelvin yn y ddalfa yn creu tensiynau ym mywyd Lowri – gartre’ ac yn y gwaith.
Dydy Siân ddim yn ymddangos yn rhy awyddus i symud i fyw at John a’r teulu ond nid yw’n siŵr sut i ddweud hynny wrthyn nhw. A chaiff Philip sioc o glywed am syniad Glenda i godi’i galon o dros ‘Dolig.
Rownd a Rownd: Mawrth ac Iau 7.30, S4C