Caernarfon Herald

Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn cyrraedd Eryri

-

BYDD digon o hwyl yn Venue Cymru, Llandudno nos Sadwrn, (18 Tach) wrth i Eryri groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017.

Anni Llŷn, Meinir Howells, Ifan Jones Evans a Terwyn Davies fydd yn dod â holl gyffro’r digwyddiad, o’r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C. Ac mae Anni’n edrych ymlaen yn arw at brofi hwyl y cystadlu eto eleni.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i aelodau o bob cwr o Gymru – rhai’n ffermwyr ac eraill sydd ddim yn ffermio – ddod at ei gilydd i gael hwyl a dangos diwylliant cefn gwlad Cymru ar ei orau,” meddai’r ferch fferm sy’n wreiddiol o Sarn Meillteyrn, Pen Llŷn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

“Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaet­hau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, ac mae’r safon yn gallu bod yn uchel iawn.”

Bydd S4C yn darlledu’r cystadlu brwd yn fyw am 5.00 o’r gloch y prynhawn, ac eto o 8.30 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben.

Mae gan Anni fwy o reswm i edrych ymlaen at yr Eisteddfod eleni gan ei bod hi’n arfer bod yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Eryri a gan mai ei mam, Rhian Parry, yw Llywydd Anrhydeddu­s y digwyddiad eleni.

“Roeddwn i’n arfer cystadlu gyda’r llefaru a’r ddeuawd ddoniol hefo Clwb y Rhiw pan oeddwn i’n iau ac fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi’n feichiog hefo fi! Wrth gwrs, mae’n grêt ei bod hi’n Llywydd ac mae pobl Eryri wastad yn groesawgar. Ond er fy nghysyllti­adau personol. Mae’r ffaith bod rhaid cynnal yr Eisteddfod y tu hwnt i ffiniau’r sir, yn neuadd fawr Venue Cymru, yn beth da ac yn dangos pa mor boblogaidd yw’r digwyddiad.”

Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017: S4C, nos Sadwrn 5pm a 8.30

 ??  ?? ● Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaet­hau hau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, medd Anni Llŷn (dde)
● Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaet­hau hau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, medd Anni Llŷn (dde)

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom