DYDD SUL UN BORE MERCHER S4C, 9.00
MAE capten Caernarfon Nathan Craig wedi rhybuddio’r Barri bod ganddyn nhw frwydr o’u blaenau pan fyddan nhw’n ymweld â’r Oval ddydd Sul, 3 Rhagfyr. Fe fydd y ddau dîm yn cwrdd â’i gilydd yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD, ac fe fydd camerâu Sgorio yno i ddarlledu’r gêm gyfan yn fyw o 2.30.
A gyda’r Cofi Army wrth gefn, mae Craig, sydd wedi chwarae dros Everton a thîm Dan 21 Cymru, yn credu bod gan y tîm, sy’n chwarae yng Nghynghrair Huws Gray, y gallu a’r galon i drechu’r tîm o’r Uwch Gynghrair.
“Ar bapur, mae’n tîm ni’n ddigon da i fod yn Uwch Gynghrair Cymru, ond ‘da ni ddim, felly yn erbyn Y Barri, ni ydy’r underdogs,” meddai Nathan. “Ond mi ydan ni’n gystal ag unrhyw dîm ar ein diwrnod a dwi’n meddwl medrwn ni greu sioc arall. Mae gynnon ni’r galon a’r cwffio i’w curo nhw. Fedra neb gymryd hynny oddi wrthon ni, ac efo’r Cofi Army tu ôl i ni, fyddan nhw fatha’r 12th man yn erbyn Y Barri.”
Wedi i’r cyn gewri, Y Barri, ennill dyrchafiad o Adran Gyntaf Cynghrair Undebol De Cymru y llynedd, mae Nathan yn cyfaddef ei bod yn edmygu’r ffordd maen nhw wedi ymdopi â’r cam i fyny.
“Dwi’n gweld tebygrwydd rhwng Barri flwyddyn dwytha a ninnau flwyddyn yma. Mi oeddan nhw ar yr un lefel â ni flwyddyn dwytha a phob clod iddyn nhw, maen nhw’n gwneud yn ffantastig yn yr Uwch Gynghrair ar y funud. ‘Dan ni am ddangos parch iddyn nhw ond pan fydd y diwrnod yn cyrraedd, mi fyddan ni ‘di ‘neud ein gwaith cartref a ‘di gweithio’n galed i baratoi.
“Mae ganddyn nhw Kayne McLaggon ac mae o’n gorfforol, sydyn ac yn gallu sgorio o bob man. Os ‘da ni’n cadw fo’n ddistaw a chwarae ein gêm ni, dwi’n meddwl bod ni hefo siawns dda.”
Mae’r Oval wedi bod yn dyst i sawl clasur y Cwpan dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae gan Nathan atgofion melys o rai o’r gemau cofiadwy yna.
“Pan aethon ni i fyny 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2014, dwi’n meddwl gwnaiff y foment yna aros efo chwaraewyr a chefnogwyr Caernarfon am yn hir. Mi oedden ni’n siomedig bod ni heb ddal ymlaen ac ennill. Flwyddyn dwytha, ‘naethon ni guro Caerfyrddin 3-1 ac roedd honna’n job reit broffesiynol ac mae hwnna i fyny yna hefyd.
“Ond y gêm gwpan yn erbyn Y Rhyl flwyddyn dwytha, lle ces i gerdyn coch cyn i ni guro’n hwyr yn extra time; roedd honna’n reit sbesial. Ni oedd yr underdogs y diwrnod yna a ‘naethon ni guro tîm o’r Uwch Gynghrair. Pan ddaw’r Barri i Dre, dwi’n siŵr ‘nawn ni deimlo’r un awyrgylch â’r gemau mawr yma.” Sgorio - Caernarfon v Y Barri: Dydd Sul, 2.30, S4C. Cic gyntaf, 2.45.