Caernarfon Herald

Plant lleol yn cystadlu i ennill teitl Carol yr Ŵyl

-

MAE’R Nadolig yn prysur agosáu ac mi fydd rhai o gorau plant Cymru yn perfformio carolau gwreiddiol yn y gobaith o gipio gwobr Carol yr Ŵyl 2017.

Mi fydd gwledd o gerddoriae­th mewn dwy raglen arbennig ar S4C (nos Fawrth, 12 a 19 Rhagfyr) wrth i gorau ysgolion cynradd berfformio carolau gwreiddiol wedi’u cyfansoddi gan eu hathrawon cerdd. Mae cyflwynydd y rhaglenni, Elin Fflur, wrth ei bodd yn gwylio’r perfformia­dau.

“Dwi wir yn mwynhau gweld cymaint o ysgolion yn cystadlu ac mae’r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn,” meddai.

“Mae hi’n anhygoel meddwl bod dros 100 o garolau gwreiddiol wedi eu cyfansoddi ers dechrau’r gystadleua­eth. Mae naws y rhaglenni mor Nadoligaid­d ac yn cael pawb i deimlo ysbryd yr Ŵyl!” meddai’r gantores a’r gyflwynwra­ig o Sir Fôn.

“Mi ro’n i’n canu yng nghôr Ysgol Gynradd Llanfairpw­ll ac roedd fy mam yn ein harwain ar yr un cyfnod a dwi’n dal i hiraethu am hynny. Does dim byd tebyg i greu sŵn mawr melys mewn côr!”

Yr ysgolion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw: Ysgol Gymraeg Sant Curig, Y Barri; Ysgol yr Hendy, Pontarddul­ais; Ysgol y Graig, Llangefni; Ysgol Iolo Morganwg, Bro Morgannwg; Ysgol Y Felinheli; Ysgol Gynradd Dolau, Pontyclun; Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis; Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia; Ysgol Rhos Helyg, Llangeitho ac Ysgol Gymraeg Aberystwyt­h.

Y tenor ac aelod Only Men Aloud, Steffan Rhys Hughes, a’r actores a chantores Elin Llwyd yw’r beirniaid eleni. Nhw fydd â’r dasg anodd o feirniadu’r perfformia­dau a dewis y côr buddugol.

“Dwi wrth fy modd bod Ysgol y Gaiman wedi penderfynu cystadlu eleni. Es i draw i’r ysgol ym Mhatagonia ryw dair blynedd yn ôl ac mae gweld bod cyffro Carol yr Ŵyl wedi cyrraedd ochr arall y byd yn hynod o gyffrous!

“Tydi hi ddim yn gyfrinach fy mod i’n caru’r Nadolig,” meddai Elin Fflur, sydd wedi dechrau paratoi at yr Ŵyl yn barod. “Mae fy addurniada­u i fyny ers canol Tachwedd a does gen i ddim cywilydd yn cyfaddef hynny!

“Fy hoff beth yw bod pawb yn cael gorffen gwaith a dod ynghyd a does dim brys ar neb i fynd i nunlle.

“Mae’n amser bendigedig gyda’r goleuadau lliwgar, Siôn Corn, carolau a siopa yn y ffeiriau Nadolig. Bydda i’n treulio’r Nadolig ar Ynys Môn gyda’r teulu i gyd, dwi’n methu aros!”

Carol yr Ŵyl 2017 : S4C, nos Fawrth, 8.25

 ??  ?? Elin Fflur
Elin Fflur

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom