Syr Bryn yn mynd ar daith ar noson Nadolig
AR noson Nadolig bydd Syr Bryn Terfel yn teithio o amgylch pedair rhan o Gymru, yn sgwrsio â phobl, yn dysgu am hanesion lleol ac yn perfformio yng nghwmni nifer o westeion. Cawn ymuno â Bryn ar ei daith yn y rhaglen Taith Bryn Terfel: Gwlad y Gân ar S4C.
Yn ôl Bryn roedd natur gymunedol yr ardaloedd y bu’n ymweld â nhw yn ysbrydoliaeth. “Teimlais gysylltiad arbennig gyda’r pentrefi gwahanol. Roedd ymdeimlad cryf o gymuned - ymdeimlad o lwyddo i greu rhywbeth arbennig gyda’i gilydd. Roedd yn hynod o ysbrydoledig.”
Y cam cyntaf ar ei daith fydd ardal y Rhondda, lle bydd Bryn yn ymweld â’r man lle ganwyd un o’i arwyr, y diweddar fas bariton Syr Geraint Evans, a chwaraeodd ran dynged- fennol yn ei yrfa.
“Roedd yn allweddol wrth roi cysylltiadau i mi o fewn y diwydiant ar gyfer fy nghlyweliadau cyntaf gyda thai opera ac arweinwyr,” meddai Bryn. “Dywedodd hefyd y dylwn brynu siwt
newydd ar ôl un cyngerdd a phâr newydd o esgidiau o Church’s - roedden nhw’n ddrud ond mi baron nhw bymtheng mlynedd. Mae’n fraint aruthrol cael dilyn ôl ei draed a gwneud y gwaith o fod yn llysgennad ar gyfer canu opera o Gymru . Ni fyddwn wedi llwyddo heb ei gymorth.”
Yn y rhaglen, bydd Bryn yn dilyn y tirlun mewn hofrennydd ac yn clywed am hanes diwydiannol a diwylliannol yr ardal. Wrth deithio ar hyd arfordir Ceredigion, o Aberystwyth i Gei Newydd, bydd Bryn yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Bydd yn parhau i ddilyn olion troed ei arwr, Syr Geraint, gan ymweld â chartref ei deulu yn Aberaeron ac i Gei Newydd lle bydd yn dysgu mwy am gysylltiad Dylan Thomas â’r pentref.
Wrth droi tua’r Gogledd, bydd Bryn yn ymweld ag ardal Penllyn sydd yn llawn cyfoeth diwylliannol, gyda gwreiddiau’r Urdd i’w canfod yno. Yn Llanuwchllyn bydd yn sgwrsio am y diweddar Derec Williams gyda’i ferch, y cerddor Branwen Williams a hefyd gydag un o gyd-sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, Penri Roberts. Cawn hefyd gyfle i glywed aelodau’r Cwmni Theatr yn perfformio darn sydd wedi ei gyfansoddi er cof am Derec.
Ymlaen i Lanbedrog wedyn lle bydd yn trafod bywyd a gwaith y diweddar Elwyn Jones o Hogia’r Wyddfa gyda’r canwr Dafydd Iwan, y pianydd Annette Bryn Parri a mab Elwyn, Dilwyn. Y cam olaf yw Pen Llŷn, lle bydd Bryn yn rhoi ei esgidiau cerdded ymlaen i grwydro ardal Yr Eifl gyda’r cyflwynydd a Bardd Plant Cymru, Anni Llŷnac yn perfformio ar
Taith Bryn Terfel Gwlad y Gân: Noson Nadolig, 9pm, S4C