Cyfres newydd a golwg newydd ar ein cynefin
MAE cymunedau Cymru yn gartref i gyfrinachau difyr, i hanesion hynod ac i straeon chwedlonol sydd yn werth eu hadrodd dro ar ôl tro. Mewn cyfres newydd, Cynefin, fydd yn dechrau ar S4C nos Sul, 7 Ionawr bydd cyfle i’r gwylwyr gael cipolwg manylach ar wyth ardal yng Nghymru a chael gwell ddealltwriaeth o’r hyn sy’n eu gwneud yn gymunedau unigryw.
Bob wythnos bydd y cyflwynydd, Heledd Cynwal, yn cael cwmni cymeriadau lleol fydd yn ei harwain drwy gilfachau cudd yr ardal tra bydd yr archeolegydd Iestyn Jones yn mynd ar drywydd yr hanes sydd wedi helpu diffinio’r ardal dan sylw. Bydd Siôn Tomos Owen yn ymuno â’r tîm i ymchwilio i’r chwedlau lleol a’r straeon gwerin sydd yn gymaint rhan o gymunedau Cymru.
Yr wyth ardal dan sylw fydd Bro Ffestiniog, Bro Emlyn, Merthyr Tudful, Dyffryn Clwyd, Ynys Cybi a gorllewin Môn, Dyffryn Banw, Dyffryn Aman a’r Bala (Bro Tegid) ac yn ôl y cyflwynydd Heledd Cynwal maen nhw i gyd yn cynnig gwledd o gyfoeth.
“O ystyried ein bod yn wlad mor fach ro’n i’n tybio y byddwn wedi clywed yr holl straeon ddaw o’r ardaloedd gwahanol o Gymru. Ond wrth ffilmio’r gyfres hon fe wnes i sylweddoli’n gyflym iawn fod yna gyfrinachau yn llechu o hyd a bod cymaint mwy i’w werthfawrogi yn ein cymunedau. Ac mae ’na bethau difyr i’w darganfod hefyd.”
Wrth ymweld ag ardal Bro Ffestiniog, cawn gipolwg prin ar ardal o chwarel y Blaenau sydd, yn ôl Heledd, heb gael ei gweld gan lawer.
“Un o’r profiadau mwyaf anhygoel i fi oedd cael mynediad i’r ardal yn y llechwedd a fu yn gartref diogel i rai o drysorau’r genedl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweld yr ystafell, nad oedd wedi newid ers y cyfnod hwnnw, ynghyd ag olion y lluniau ar y waliau yn dal i
CYNEFIN: S4C, nos Sul 7 Ionawr 8pm