DYDD GWENER JONATHAN S4C, 9.30
FYDD y buarth byth yr un peth ar ôl cyfres ddiweddaraf Fferm Ffactor, wrth i selebs gystadlu am y teitl a chyfraniad o £3,000 at elusen o’u dewis.
Y wynebau cyfarwydd fydd yn cystadlu yn y gyfres dair rhan newydd, Fferm Ffactor: Selebs yw:
Elen Pencwm – cantores a chyflwynydd radio; Alun Williams – cyflwynydd radio a theledu; Nathan Brew – cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol; Ioan Doyle – cyflwynydd Y Sioe a dringwr; Cefin Roberts – cyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy; Linda Brown – seren ‘Run Sbit; Bethan Gwanas – awdur a chyflwynydd; Dyl Mei – cyflwynydd BBC Radio Cymru; Llŷr Evans – actor; Gareth Wyn Jones – ffermwr a chyflwynydd; Stifyn Parri – trefnydd digwyddiadau; a’r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd.
Yn ail-ymuno â theulu Fferm Ffactor mae’r beirniaid Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor ac Wyn Morgan, ac mae cyflwynydd y rhaglen, Ifan Jones Evans yn ôl i geisio cadw trefn ar bawb a phopeth.
Yma, mae Ifan yn esbonio beth sydd i ddod yn ystod y gyfres.
“Y tro yma, ry’n ni wedi penderfynu tynnu selebs o’u comfort zone yn gyfan gwbl! Dyw’r tasgau ddim yn haws oherwydd hynny chwaith. Mae rhai ohonyn nhw’n debyg iawn i dasgau o gyfresi cynt, felly byddwn ni’n cael cyfle i weld y selebs yn troi eu llaw at dasgau ffermio go iawn.
“I gymharu â’r ffermwyr sydd fel arfer yn cystadlu yn Fferm Ffactor, mae’r selebs yn cyfathrebu gymaint mwy ac yn bwyllog wrth fynd ati i greu whilber neu bont ddŵr. Roedd y ffermwyr yn gwybod beth roedden nhw’n ‘neud ac yn rhuthro i mewn i wneud y dasg.
Ydy unrhyw un o’r cystadleuwyr yn sefyll allan i chi?
Cefin Roberts. Mae Cefin yn ymroi’n llwyr i’r tasgau – gwnaiff e ffarmwr da ryw ddydd! Ar y llaw arall fe wnaeth Nathan Brew fy synnu i gan ei fod ofn anifeiliaid! Cyn cwrdd â’r selebs, mae ‘da chi ddelwedd o sut berson y’n nhw; doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn rhedeg bant o gwpl o foch!
“Wrth gwrs mae ffermio yn fy ngwaed i, felly mae cael pobl ddibrofiad yn cymryd rhan yn y gyfres ddiweddaraf yn agoriad llygad. Ond mae’r rhaglen yn gyfle da i ni addysgu’r cyhoedd sy’n gwylio am yr hyn ni’n gwneud a shwt ni’n ‘neud e.” Fferm Ffactor Selebs: S4C, nos Fawrth 8pm YMUNWCH â Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan wrth iddynt drin a thrafod y byd rygbi ar drothwy gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham. Bydd digon o sgwrs a sialensiau corfforol yng nghwmni’r ddau westai arbennig wrth i’n tîm cenedlaethol baratoi i wynebu’r Hen Elyn, Lloegr! Y gwesteion