Cyfle i chi fod yn yn rhan o Cân i Gymru
WRTH i hoff gystadleuaeth gyfansoddi’r genedl agosáu, mae wyth cân yn gobeithio taro tant â gwylwyr Cân i Gymru, er mwyn hawlio’r brif wobr o £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon. Ac mae dewis yr enillydd yn eich dwylo chi, y gwylwyr!
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei darlledu o Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor am y tro cyntaf erioed a’r cyfan yn fyw ar Ddydd Gŵyl Dewi - nos Iau 1 Mawrth - ar S4C.
Yr wyth cân sy’n cystadlu eleni yw: Dwi’m yn Dy Nabod Di gan Dafydd Dabson ac Anna Georgina; Tincian gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys; Dim Hi gan Hana Evans; Byw a Bod gan Mared Williams; Ysbrydion gan Aled Wyn Hughes; Ton gan Gwynfor Dafydd a Michael Phillips; Cofio Hedd Wyn gan Erfyl Owen; a Ti’n Frawd i Mi gan Owain Glenister.
Meddai Elin Fflur, sy’n cydgyflwyno’r gystadleuaeth gyda Trystan Ellis-Morris, “Dwi’n edrych ymlaen at gystadleuaeth dda eleni. Mae ‘ na amrywiaeth wych o ganeuon wedi cyrraedd rhestr yr wyth ola’ – o werin i bop, baled, roc gwerinol a roc.
“Mae Cân i Gymru yn ddigwyddiad mawr,” meddai Elin, a enillodd y gystadleuaeth yn 2002 wrth ganu’r gân Harbwr Diogel. “Dwi wedi clywed am lot yn cael parti Cân i Gymru, sy’n wych dwi’n meddwl. Ac wrth gwrs, mae pobl wrth eu boddau’n trydar ac yn dilyn Twitter yn ystod y rhaglen.”
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cân i Gymru wedi bod ymhlith y pynciau trafod mwyaf poblogaidd ar Twitter ym Mhrydain ar noson y darlledu.
“Dwi’n meddwl bod Twitter wedi denu llawer iawn o bobl yn ôl i’r gystadleuaeth. Mae’n fan trafod gwych, ac mae’n gwneud i bobl deimlo eu bod nhw’n rhan o’r peth. Mae’r rhyngweithio a’r ffordd rwyt ti’n medru dweud dy farn yn creu teimlad o ddigwyddiad cenedlaethol. Ond dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cofio mai cyfrwng i drafod y caneuon yn adeiladol ydi o, yn hytrach na bod yn gas neu’n bersonol,” ychwanega Elin.
Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, defnyddiwch yr hashnod #CIG2018. Ond, os ydych chi am i’ch barn gyfri tuag at ddewis enillydd, yna rhaid codi’r ffôn a phleidleisio. Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a’r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson. Cân i Gymru: Dydd Gŵyl Dewi - Nos Iau 1 Mawrth 8.00, S4C