Caernarfon Herald

Alex yn rhannu profiadau gyda rhai o famau Cymru

-

MAE rôl y fam wedi newid yn sylweddol dros y ganrif ddiwethaf, ac mewn rhaglen ddogfen bersonol Alex Jones: Y Fam Gymreig, a ddarlledir ar S4C ar Sul y Mamau (11 Mawrth), mae cyflwynwra­ig boblogaidd The One Show, Alex Jones, yn datgelu bod cynnal cydbwysedd bywyd gwaith a bywyd cartref yn dipyn o her.

“Mae’r rhan fwyaf ohonon ni ferched yn mynd allan i weithio erbyn heddiw, ac fe es i ‘nôl i’r gwaith dri mis ar ôl genedigaet­h Ted. Roedd hwnna’n anodd, ac mae ffeindio’r balans rhwng fy ngwaith a bod yn fam yn anodd. Hyd yn oed ffeindio’r amser yn y bore i fwydo Ted cyn mynd i’r gwaith – mae’n anodd,” meddai Alex, a gafodd ei phlentyn cyntaf y llynedd, ac sy’n cyhoeddi ei llyfr, Winging It, sy’n trafod profiadau mamau, ym mis Ebrill.

Mae’r rhaglen yn cael ei darlledu fel rhan o dymor S4C o raglenni i ddathlu menywod yng Nghymru, a bydd Alex yn teithio ar hyd a lled y wlad yn sgwrsio â mamau Cymreig eraill, gan ofyn ‘A yw’n bosib cael y cyfan?’ Cwestiwn oesol ond un sy’n dal yn anodd ei ateb.

Y fam gyntaf i Alex ymweld â hi yw Mary, ei mam ei hun, sy’n rhannu ei phrofiadau am sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoed­d. A hithau’n 25 oed yn rhoi genedigaet­h i Alex, roedd yn cael ei chysidro’n “fam hŷn” ddeugain mlynedd yn ôl, ac arhosodd gartref gydag Alex a’i chwaer am bum mlynedd, tra bu’n rhaid i’w gŵr ddychwelyd i’r gwaith mor fuan â diwrnod wedi’r enedigaeth. Ei chyngor magu i unrhyw fam yw, “Ffeindiwch eich ffordd eich hun; mae pawb yn ffeindio’u traed.”

Un sy’n profi’r her o fod yn fam i’r eithaf yw Jen, sydd, gyda’i gŵr Rob, yn magu naw o blant ger Llanrug, Caernarfon. Gyda’r plentyn hynaf newydd droi’n 17 a’r ieuengaf yn saith mis oed, mae Alex yn clywed am y realiti o fagu teulu mor fawr, gyda’r plant yn llowcio’u ffordd drwy ddeg torth bob wythnos, ac yn yfed wyth peint o lefrith bob dydd! Alex Jones, Y Fam Gymreig: nos Sul 11 Mawrth 8.00, S4C

 ??  ?? ● Alex Jones ar drywydd y Fam Gymreig
● Alex Jones ar drywydd y Fam Gymreig

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom