DYDD IAU
WRTH i ni ymweld ag Ysgol Porth y Glo heno, dydy pethau ddim yn edrych yn dda i Math ac Annest wrth i’w perthynas ddirywio. A fydd pethau’n dechrau gwella rhwng y ddau? Dydy’r ffaith bod Math yn dioddef o gur pen ofnadwy ar ôl ei noswaith feddwol ddim yn helpu’r achos! Ar y llaw arall, mae Kayleigh ar ben y byd ar ei diwrnod cyntaf fel disgybl yn yr ysgol - er mawr siom i Eurig.