PORTHMADOG
GWASANAETHAU: Salem, Porthmadog 10.15am: Edward Morus Jones. Bethel, Borth-y-Gest 10.30am: Gwasanaeth Saesneg (English Service). 2pm: Gwasanaeth Cymraeg - Edward Morus Jones. Seion, Penmorfa 2pm: Parch Iwan Llewelyn Jones. Capel y Porth, Porthmadog 10am: Parch Christopher Prew. Peniel, Tremadog 10am: Glyn Owen. Bethel, Golan 2pm: Glyn Owen. Jerusalem, Garndolbenmaen 5pm: Glyn Owen. CATHOLIC CHURCH: Winter Mass times: St Joseph’s, Pwllheli Sat 6.30pm (Welsh) and Sun 9am (English); Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog Sun 11.30am (English). GUIDING: Brownie unit. Contact Anne Fazakerley on 01766 770360. GIRLGUIDING PORTHMADOG: Runs a Rainbow Unit for 5-7 year old girls on Mondays at 5.30pm. If interested in joining come along or for further information ring Ann Fazakerley 01766 770360. Scouts: Porthmadog Scouts are meeting time from 6-8pm on Thurs. If you fancy trying out some new experiences come along and pay a visit! Contact: Lauren Evans 07825133347. ARMY CADET FORCE (ACF): Porthmadog ACF is open on Weds 7-9pm for young people age 12 (Year 8) - 18 years. Further information www.armycadets.com/county/ clwyd-and-gwynedd-acf. AGE CYMRU: Gwynedd a Mon are looking for volunteers to assist in the running of the charity shop on the High Street, Porthmadog. Duties to include sorting donations received, assisting with stock display, serving customers and having a chat with customers popping in to the shop. For info contact 01286 677711. CHURCH IN WALES: Service each Sun at 9.30am, Parish Church of St John, Penamser Road. HISTORY TALKS: Welsh History talks on 2nd Friday of the month and Roman History talks on the last Friday of each month, both 11am, at Penrhyndeudraeth Church Hall. Contact Syd Caplan 01766 522238, email sydney.caplan@btinternet. com. LIBRARY: Tel 01766 514091. Events for March: Tuesday, March 13, 10.15-11.15am, Story and Rhyme Time, Mudiad Meithrin. Wednesdays: CAB - no appointment necessary, March 7, 14, 21, 28, 10am-noon. Thursday, March 29, 10.30am-11.30am. Easter Origami for adults - 12 spaces (£5 to be paid in advance, must book). Fridays, Story session for under 5s, March 9, 16, 23, 2.15-3pm. All events are free unless otherwise stated.
SSAFA GWYNEDD: are requesting new caseworkers in the Gwynedd area to help and support our veterans and their families. If you can help,contact Andy Williams 07958524298. CYMDEITHAS UNDEBOL: Capel y Porth a Jerwsalem, Garndolbenmaen. Cynhaliwyd cyfarfod olaf tymor llwyddiannus iawn o’r Gymdeithas nos Lun, Mawrth 5ed yng Nghapel y Porth. Croesawyd ein gŵr gwadd, Y Parch Ddr Huw John Huws, gan lywydd y noson, Mrs Gwen Rees Jones, yn gynnes iawn gan ei ddisgrifio yn ysgolhaig disglair ac amryddawn, yn athro, prifathro, darlithydd, Pregethwr a sefydlydd Pili Palas. Testun y ddarlith oedd “Hanes cynnar yr Ysgol Sul yng Nghymru “. Darlith sych, anniddorol meddech chi. Dim o gwbl. Trafodwyd y ddarlith gyda ffeithiau difyr a chryn hiwmor. Cafwyd hanes sut aeth Griffith Jones Llanddowror ati i ddysgu plant ac oedolion i ddarllen y Gymraeg a sefydlu’r Ysgolion Cylchynol. Dyma sefydlydd yr ysgolion Cymraeg cyntaf, y plant yn cael eu dysgu am y tro cyntaf yn eu mamiaith. Seren newydd a ymddangosodd yn hwyrach yn y ganrif oedd Tomos Charles a gafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Cafwyd hanes difyr iawn sut y daeth Tomos Charles i ymgartrefu yn Y Bala a hynny oherwydd cyfarfod â merch o’r dref a symud ati ar ôl bod yn gweinidogaethu yng ngwlad yr Haf am bedair blynedd. Difyr oedd cael dehongliad o’r llythyrau caru rhyngddynt a sut yr aeth Tomos Charles ati i ddysgu’r plant i ddarllen, mewn ffordd syml ond hynod o effeithiol. Gosodwyd sylfeini drwy’r ysgolion Sul mewn Duwioldeb, Moesoldeb a Gostyngeiddrwydd. Llwyddodd y darlithydd i gynnal diddordeb y gynulleidfa trwy gydol y ddarlith. Diolchwyd i’r llywydd a’r siaradwr gan ein gweinidog Y Parch Christopher Prew gan ddweud cymaint roedd wedi mwynhau’r ddarlith. Diolch i Susan, y swyddogion a’r pwyllgor am drefnu rhaglen mor ddiddorol ac amrywiol ar ein cyfer. Trefnwyd ar y cyd gyda Merched y Wawr i recordio Talwrn y Beirdd yng Nghapel y Porth nos Fawrth, Mai 15. Fe fydd y Gymdeithas yn dathlu Gŵyl Ddewi yn Y Golff, Morfa Bychan nos Wener, Mawrth16eg gydag adloniant gan y Band Arall