Caernarfon Herald

DYDD SUL PARCH S4C, 9.00

-

MAE pum person penderfyno­l ar fin cychwyn ar daith anhygoel a allai newid eu bywydau am byth; gwella’u hiechyd, eu ffitrwydd, eu lles a’u hapusrwydd, a hynny mewn dim ond wyth wythnos.

Ac mae gwahoddiad i’r genedl gyfan ymuno yng nghyfres newydd S4C, FFIT Cymru sy’n dechrau nos Fawrth, 10 Ebrill.

Bydd FFIT Cymru’n dilyn ymdrechion y pump sydd wedi’u dewis o fwy na 200 o ymgeiswyr. Y rhain yw: Judith Owen, prifathraw­es o Lanwnda sydd wedi brwydro 20 mlynedd o salwch; Catherine Lewis, mam ifanc o Gaernarfon sydd erioed wedi mwynhau noson allan oherwydd diffyg hyder; Mathew Thomas, tad ymroddgar a chyn chwaraewr rygbi proffesiyn­ol o Ynys Môn sydd wedi troi cornel yn ei fywyd; Leon Welsby, o Ben-y-bont ar Ogwr a gafodd ei wrthod ar rollercoas­ter oherwydd ei bwysau a nyrs plant Nic Davies o Benygroes ger Rhydaman, sydd eisiau bod yn well esi- ampl i’w ddau fab a dod yn “Dad heini nid yn Dad tew!”

Mae cyflwynydd y sioe Lisa Gwi- lym yn barod am daith dymhestlog, “Mae’n pum gwirfoddol­wr FFIT Cymru yn griw ffantastig, pob un gyda’u rhesymau eu hunain dros gymryd rhan ac rwy’n siŵr y bydd eu taith yn ysgogi ac yn ysbrydoli llawer iawn o bobl o bob rhan o Gymru.

“Rwy’n gwybod y bydd hyn yn her emosiynol i’r pump. Bydd yna ddagrau ac efallai hyd yn oed ychydig o strancio ond mi fydd y cyfan yn werth chweil. Rwy’n siŵr y byddwn yn gweld rhai newidiadau anhygoel erbyn diwedd yr wyth wythnos.”

Gyda chefnogaet­h, cyngor ac arweiniad gan arbenigwyr y sioe; yr hyfforddwr personol Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke a’r seicolegyd­d Dr Ioan Rees, bydd pawb yn canu’r gloch ar eu harferion drwg ac yn cychwyn ar ffordd newydd o fyw.

Bydd y ffaith eu bod yn cael eu pwyso bob wythnos yn cadw llygad ar eu cynnydd ac, yn ogystal â chyrraedd eu nodau personol eu hunain, bydd pob un yn gobeithio cwblhau Parkrun 5K cyn diwedd y gyfres. A, gan fod cynlluniau prydau bwyd ac ymarferion cadw’n heini yn mynd i fod ar gael pob wythnos ar-lein yn rhad ac am ddim ar s4c.cymru/ffitcymru, bydd pawb yn gallu dilyn eu hesiampl.

Ychwanega Lisa, “Does yna ddim ffioedd gym nac offer drud ar FFIT Cymru, dim ond ymarfer corff gartref a chyfle i fynd allan i’r awyr iach.

“Does dim rhaid gwario arian. Ein mantra ni yw, drwy gymryd camau bychain a gwneud newidiadau yn eich bywyd bob dydd, gallwch wneud newid mawr i’ch corff a’ch meddwl. Does dim rhaid treulio oriau yn rhedeg ar y treadmill neu deimlo’n llwglyd bob dydd – gyda’n gilydd gallwn newid ein ffordd o fyw ac ysbrydoli eraill i wneud hynny hefyd.” FFIT Cymru: S4C, nos Fawrth, 8pm

 ??  ??
 ??  ?? Catherine Lewis
Catherine Lewis

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom