Caernarfon Herald

DEINIOLEN

-

BINGO: Every Fri at Tŷ Elidir, open 6.30pm, start 7pm. Proceeds to local charities. MOBILE POST SERVICE: at Deiniolen, every Friday 10.45am-12.15pm. Situated at Library car park, High Street, Deiniolen. DEINIOLEN LIBRARY: Click and Collect Service.Mon 9-10am 2-3pm. Tue 9-10.30am 2-3pm. Wed 9-10.30am 2-3pm. Thu 9-10.30am 2-3pm. Fri No Service. GLENYS LLOYD JONES:

Dydd Iau, Ebrill 12 yn Amlosgfa Bangor bu cynhebrwng Glenys Lloyd Jones,Celyn,Deiniolen a daeth tyrfa deilwng ynghyd.Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar Fawrth 31 yn 85 mlwydd oed. Gwasanaeth­wyd gan y Canon Idris Thomas,Glanrafon a siaradodd Idris yn hyfryd iawn amdani.Roedd yn fam annwyl i’w mab Guto,yn nain hynod gariadus a charedig i Daniel a Sam,yn chwaer hoffus i Eurwen a Mary a’r diweddar Orwig,yn fodryb hoff ac yn briod annwyl i’w diweddar ŵr Gordon. Fe’i ganed ar aelwyd “Bryn Peris”,Y Fachwen yn un o bedwar o blant i William Orwig a Catherine Jane Jones.Pan yn saith oed symudodd gyda’r teulu i rhif 28,Hafod Oleu yn Deiniolen.Fel gweddill y plant derbyniodd ar yr aelwyd fagwrfa dda a mynychodd ysgolion Dinorwig, Deiniolen ac am gyfnod byr ysgol yng Nghaernarf­on. Pan yn bedair ar ddeg oed aeth Glenys i weithio i siop Pollecoffs ym Mangor a wedyn aeth i ffatri Ferranti yn y ddinas. Hanner canrif yn ôl daeth i Celyn ac roedd wrth ei bodd yno ymysg yr anifeiliai­d;roedd llu o gwsmeiriai­d ganddi ymhobman yn prynu wyau a gwerthid twrciod adeg y Nadolig. Cefnogai siopau lleol ac roedd yn dreifio hyd y diwedd.Bu hi a’i mab Guto ddwywaith i ymweld â’i chwaer Eurwen sy’n dal i fyw yn Ne Affrig a olygai taith hirfaith. Bu’n gweini’n arbennig ar ei phriod Gordon pan drawyd ef ag afiechyd blin a chreulon hyd ei farw yn Ionawr 2017. Roedd yn berson llawn egni, byth yn llonydd,yn dawel ei byd.Meddyliai y byd o’i hwyrion Daniel a Sam sy’n byw yn Llangefni.Trefnwyd y cynhebrwng gan Meinir Griffith o Dylan Griffith,Tros y Waen, Penisarwae­n.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom