Caernarfon Herald

Pluo tyrcwn, a menyn mewn peiriant golchi

Be arall welodd Elis James wrth dyrchio trwy yn archif S4C?

-

MAE Elis James wedi bod yn tyrchio yn y sgips rownd cefn swyddfa S4C, ble mae hen dapiau’r archif yn cael eu taflu. Ac mae o wedi dod o hyd i ambell glasur i’w rhannu gyda’r byd yn ei gyfres newydd Elis James: Cic Lan yr Archif.

O wneud menyn mewn peiriant golchi, i dechnoleg ddiweddara­f ffonau symudol maint bricsen, mae Elis wedi dod o hyd i’r pethe rhyfeddaf wrth dwrio drwy archif S4C, BBC Cymru a HTV.

Technoleg sy’n cael sylw yn y bennod gynta nos Fercher, 25 Ebrill, ond does dim byd – o ffermio i chwaraeon – na neb, y tu hwnt i’w hiwmor, gan gynnwys yr Eisteddfod.

Meddai Elis, “Wrth edrych ar raglenni technoleg, ti’n chwerthin ar faint y ffonau symudol a gweld pobl yn rhyfeddu at dechnoleg oedd yn mynd i newid y byd yn 1985.

“Ti jyst yn edrych ar y rhaglenni, ac maen nhw i gyd yn addo mai fel hyn y byddwn ni’n byw yn y flwyddyn 2000. Ac, fel rhywun wnaeth fyw drwy’r flwyddyn 2000, sa’ i’n gwybod amdanoch chi, ond doedd dim fax machine symudol gyda fi!”

Mae’r gyfres wedi rhoi cyfle i Elis ehangu ei obsesiwn gyda Hywel Gwynfryn – “trysor cenedlaeth­ol a genius” yn ôl Elis, gan fanteisio ar y cyfle i dynnu coes hefyd. A bydd ambell eicon arall, gan gynnwys Arfon Haines Davies a Sulwyn Thomas, yn cael y driniaeth ‘cic lan yr archif’ gan Elis hefyd, a hynny ar ffurf clipiau a sgetsys.

“Fi’n meddwl bod Hywel Gwynfryn yn drysor cenedlaeth­ol,” meddai Elis. “Mae’n gweithio ar lefel hollol wahanol i bawb arall, achos wnaeth e gymaint o raglenni gwahanol. Oedd e fel utility player. Oedd S4C jyst yn towlu Hywel mewn a doedd e byth yn achwyn, byth yn conan. Ac mae e wastad yn fodlon gwneud pethau peryglus a gwneud ffŵl o’i hunan.”

Awydd Elis i ddarganfod mwy amdanom ni’r Cymry yw’r sbardun y tu ôl i’r gyfres. A drwy ddefnyddio’r archif mae o wedi creu darlun o hanner canrif o fywyd yng Nghymru, o’r digri’ i’r hollol abswrd! Ac mae un clip wedi’i leoli yn ei filltir sgwâr ei hun yn sefyll allan fel darlun da o’r 1960au.

“Ges i syndod faint mae bywyd wedi newid dros yr hanner canrif ddiwetha’,” meddai Elis. “Dychmygwch y 60au; Mae’r Beatles newydd ryddhau Sgt. Pepper, Bob Dylan wedi mynd yn drydanol, mae’n Summer of Love ym Mhrydain – ac mae pobol mewn clwb yng Nghroesyce­iliog ger Caerfyrddi­n yn cwrdd i blufio tyrcwn! Ti’n sylwi cyn lleied o adloniant oedd i’w gael yng nghefn gwlad Cymru!” Elis James - Cic Lan yr Archif: Nos Fercher 25 Ebrill 9.30, S4C

 ??  ?? Elis James
Elis James

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom