DYDD SADWRN CLWB RYGBI: GLEISION V GWEILCH S4C, 5.15
YM mhentre’ Cymreig Llanifeiliaid rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i ambell i gymeriad!
Ar un ochr y pentref mae Enid ac Elsi, dwy sydd wedi adnabod ei gilydd ers oes yr arth a’r blaidd; ar yr ochr arall mae Huw, y guru ffasiwn; a dros y ffordd mae’r wheeler dealer, Vinnie Farchnad.
Byddwch chi’n deall yn sydyn iawn bod rhywbeth gwahanol am drigolion pentref traddodiadol Cymreig Llanifeiliaid: maen nhw’n cerdded ar bedair coes ac mae gan rai adenydd. Ie, anifeiliaid ydyn nhw.
Gan ddefnyddio ffilm o anifeiliaid a saethwyd ym Mharc Antur a Sw Fferm Ffoli, Sw Bryste, a Pharc Bywyd Gwyllt Cotswold, mae’r rhaglen yn defnyddio lleisiau nifer o actorion adnabyddus ar gyfer cymeriadu’r anifeiliaid, gan gynnwys Siw Hughes, Sue Roderick, Catrin Mara a John Pierce Jones, a’r cyflwynydd radio Aled Hughes yn adrodd y cyfan i ni.
Bydd y bennod gyntaf yn ein cyflwyno i drigolion Llanifeilaid wrth i deulu o meerkats, y Michaels symud i’r ardal. Bydd pob pennod â stori benodol – o gynnal parti i groesawu teulu’r Michaels ac o ymweliad yr anifeiliaid i’r Eisteddfod Genedlaethol i godi arian at do newydd i’r clwb rygbi.
Mae cyflwynydd Stwnsh, Owain Williams, o Sanclêr ger Caerfyrddin, hefyd yn un o’r actorion sy’n rhoi llais i’r anifeiliaid, ac roedd hefyd yn ysgrifennu’r sgript ar y cyd gydada Non Parry.
“Mae’r gyfres newydd hon ynyn dod o hyd i’r abswrd mewn dig-gwyddiadau normal bob dydd.d. Mae’n rhaglen unigryw y bydddd rhieni’n gallu gwylio gyda’u plantnt a fydd y plant ddim yn sylwi arar rai o’r elfennau sy’ bach yn agosos i’r bôn.” Llanifeiliaid: Nos Wener 4 Mai 8.25, S4C