Caernarfon Herald

Cyw yn dathlu 10 gyda chyfres animeiddio newydd

-

OS na fydd eich rhai bach yn gallu mynd i Eisteddfod yr Urdd i weld Cyw yn fyw eleni, bydd pedair pennod o gyfres animeiddie­dig newydd sbon, Cyw a’i Ffrindiau, yn cael eu darlledu ar wasanaeth Cyw yn ystod wythnos yr Wyl.

Cyw yw gwasanaeth S4C ar gyfer plant meithrin sydd yn cael ei ddarlledu bob diwrnod o’r wythnos ac eleni mae’r gwasanaeth yn 10 oed.

Sêr cyfres newydd Cyw a’i Ffrindiau yw’r cymeriadau bach hoffus sydd wrth galon gwasanaeth Cyw; sef Bolgi, Llew, Jangl, Plwmp, Deryn a Cyw ei hun, wrth gwrs. Ac erbyn hyn mae ffrind newydd wedi ymuno â’r criw – ci bach tair coes o’r enw Triog.

Byd lliwgar Cyw yw canolbwynt y gyfres a bydd bob pennod yn gweld Cyw a’i ffrindiau’n gwneud pob math o bethau – o drefnu parti pen-blwydd i fynd ar antur o dan y môr i greu rhywbeth arbennig iawn i’w hedfan yn y gwynt.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynyd­d Cynnwys Plant S4C, “Mae plant wedi cael eu swyno gan Cyw, a’i ffrindiau, ers 2008. Felly mae’n fendigedig eu gweld nhw a’r byd llawn hwyl mewn cyfres eu hunain lle bydd cyfle i ddod i’w hadnabod nhw’n well.

“Gyda chymeriada­u annwyl, delweddau hyfryd a straeon difyr, bydd y gyfres yn siŵr o fod yn ffefryn newydd i wylwyr ifanc.”

Mae nifer o ddigwyddia­dau wedi eu trefnu i ddathlu degawd o Cyw eleni, bydd criw Cyw a’i ffrindiau a Cherddorfa Genedlaeth­ol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru yn perfformio detholiad o ganeuon i blant a hwiangerdd­i fel rhan o gyngherdda­u Eisteddfod Genedlaeth­ol Cymru 2018.

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithas­ol Cyw am ragor o newyddion am y dathliadau pen-blwydd.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom