Caernarfon Herald

A all Hywel Llywelyn faddau i Sheryl a’i phriodi?

-

MAE Hywel Llywelyn wedi torri mwy o galonnau na’r rhan fwyaf o gymeriadau’r byd teledu sebon, ond y tro hwn, pishyn Pobol y Cwm sydd mewn gwewyr cariad

Mae Mr Casanofa Cwmderi, sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Andrew Teilo, wedi clywed bod ei ddyweddi Sheryl (Lisa Victoria) wedi cael perthynas ag un o’i ffrindiau gorau, Gethin (Simon Watts). A’r cwestiwn mawr nawr yn opera sebon dyddiol S4C yw a all Hywel faddau iddi a bwrw ymlaen â’r cynlluniau i’w phriodi hi.

Ers 1991, pan wnaeth e ymuno â’r gyfres sebon bum-noson-yrwythnos a gynhyrchir gan BBC Cymru, mae Hywel Llywelyn wedi bod yn briod dair gwaith ac wedi cael cyfanswm o 28 perthynas grasboeth. Ond fel arfer fe sy’n torri calonnau wrth gael affêrs; y tro hwn mae pethau’n wahanol.

Mae Andrew, o Landeilo, Sir Gaerfyrddi­n, wrth ei fodd â stori ddiweddara­f ei gymeriad, gan ei bod yn dangos bod ganddo ddyfnder ac enaid.

“Ers iddo ymuno â’r sebon fel athro ysgol a chael perthynas ag un o’r disgyblion, Stacey Jones, mae e wastad wedi bod yn whare’r jack the lad,” meddai Andrew, mab ffermwr o Ddyffryn Tywi.

“Fe ddaeth ei briodasau ‘da Ffion a Gaynor i ben yn bennaf achos bod e’ â’i lygaid ar fenywod eraill. Ond y tro hwn mae e wir wedi cwympo mewn cariad; mae’n garreg filltir yn ei ddatblygia­d fel cymeriad ac mae sut fydd yn ymateb i’r argyfwng yma yn y berthynas a beth fydd ei benderfyni­ad ymbytu priodi Sheryl yn wir fesur o’r dyn,” ychwanegod­d Andrew, un o actorion mwyaf hirhoedlog y sebon.

Mae Andrew yn canmol y storïwyr a’r sgriptwyr am “gael hyd i ochr ddyfnach, mwy emosiynol” ei gymeriad. “Rwyf wedi bod yn ffodus i gael straeon cryf iawn dros y blynyddoed­d, ond mae perthynas Hywel â Sheryl yn un o’r rhai mwyaf pwerus, yn enwedig y stori pan gollodd y cwpl blentyn.

Roedd hynny’n brofiad ysgytwol imi fel actor ac mae’n fraint cael cydweithio ag actores mor alluog â Lisa Victoria â’r golygfeydd mor bwerus.”

Mae Andrew, sydd nawr yn ei 50au cynnar, yn pallu datgelu beth fydd pen draw’r stori afaelgar rhwng y ddau, ond mae’n rhybuddio nad yw’r Hywel Llywelyn drygionus wedi diflannu am byth.

“Ydy, mae e’n brifo nawr ac ydy, mae e wedi cwympo’n llwyr am Sheryl, ond mae’n anodd tynnu cast o hen geffyl…”

Pobol y Cwm: Llun, Mercher, Gwener 8.00; Mawrth, Iau 7.30, S4C, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg/ English and Welsh Subtitles

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom