Caernarfon Herald

Pobol y Cwm

-

GWNA Sheryl ei gorau i geisio darganfod a yw Hywel yn gwybod y gwir am ei pherthynas gyda Gethin.

Ar ddiwrnod y symud tŷ, mae Eileen a Jim wrth eu boddau yn mynd yn ôl i Benrhewl, ond mae Cadno yn amlwg yn methu bywyd y fferm pan mae’n cyrraedd fflat y siop. A fydd Sioned yn llwyddo i gofio beth ddigwyddod­d ar noson y parti? Yn dilyn sgwrs gyda’r heddlu, daw hi i benderfyni­ad.

Mae rhywun o orffennol Sheryl yn dychwelyd i’r cwm. Ar ddiwrnod y briodas mae Gethin yn gwneud ei orau i gael Sheryl i newid ei meddwl, ond a fydd yn llwyddo?

Ac mae gan rywun gyhoeddiad pwysig i’w wneud.

Pobol y Cwm: Llun, Mercher, Gwener 8pm; Mawrth, Iau 7.30, S4C

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom