Caernarfon Herald

Tair olwyn, dau foi pizza, un nod… pencampwyr y byd!

-

Ers ei sefydlu yn 2014, mae cwmni Pizza Ffwrnes wedi gwneud enw i’w hun yma yng Nghymru. Yn gweini ym mhriodas neb llai na’r gantores Charlotte Church a phriodas y beiciwr Geraint Thomas, mae’n amlwg bod y ddau gyfaill, Ieuan Harry a Jez Phillips, wedi llwyr feistroli’r ddawn o greu’r pizza perffaith. Ond sut bydd pizza’r ddau Gymro o’r Gorllewin yn cymharu â rhai o gogyddion gorau’r byd – a hynny ym mamwlad y Pizza draddodiad­ol? Cawn ddilyn eu hanes mewn cyfres newydd bedair rhan ar S4C, Bois y Pizza, gan ddechrau nos Wener, 22 Mehefin.

Maen nhw ar eu ffordd i gystadleua­eth pizza fwya’r byd yn Parma, Yr Eidal, y Campionato Mondiale della Pizza. Cyn cyrraedd, mae angen i’r ddau fanteisio ar y cyfle i ddysgu a blasu’r hyn sydd gan gyfoeth o ddiwyllian­t Ewrop i’w gynnig. Mi fyddan nhw’n dysgu, yn blasu, ac yn arbrofi drwy greu pizzas gwreiddiol yn defnyddio cynhwysion traddodiad­ol rhai o ardaloedd enwocaf Ewrop.

Bydd gwylwyr S4C yn dilyn y ddau a Smokey Pete – y fan fach dair olwyn sy’n cario calon y cwmni, y Ffwrnes Pizza, gan brofi holl hynt a helynt y daith.

Un hanner o’r ddeuawd pizza yw Ieuan, ac yma cawn fwy o wybodaeth am eu taith, a’r Bencampwri­aeth fawreddog.

Pam dewis mynd ar daith cyn cyrraedd y Bencampwri­aeth?

Diben y daith oedd dod o hyd i’r cynhwysion gorau ar gyfer ein pizza yn y gystadleua­eth. Buon ni’n galw mewn trefi ac mewn bwytai sy’n enwog am gynhwysion neu fathau o fwyd arbennig y gallwn ni eu defnyddio i wneud ein pizza. Roedd rhaid i ni fynd i Napoli hefyd! Wnaethon ni gwrdd â phobl sy’n cael eu hystyried yn ‘feistri’ ac yn enwog am y pizzas Neapolitan gorau. Cawson ni lawer o gyngor ac roedd e’n fantais ar gyfer y gystadleua­eth.

A gafwyd unrhyw her neu broblem annisgwyl yn ystod y daith neu’r gystadleua­eth?

Gyrru ar y ffyrdd yn yr Eidal oedd yr her fwyaf! Mae’r Eidalwyr yn gyrru mor wyllt; mewn a mas rhwng ei gilydd. Yn Napoli roedd gan bob car grafiadau neu dolciau. Dyna oedd y profiad anoddaf achos ry’ ni mor hoff o’r fan fach – doedden ni ddim eisiau iddi gael tolc!

Sut brofiad oedd cael cystadlu ym Mhencampwr­iaeth Pizza y Byd?

Roedd y gystadleua­eth yn lle gwyllt. Roedd 43 gwlad wahanol yn cystadlu - roedden ni mor hapus i fod yno, a gweld cymaint o bobl yn paratoi’r holl pizzas gwahanol. Dim ond un pizza roedden ni’n cael paratoi, felly roedd rhaid i bopeth fod yn berffaith. O’r gwaith paratoi i’r cynhwysion, o’r coginio i’r cyflwyno. Yr her fwyaf oedd rhoi’r pizza yn y ffwrn a’i dynnu allan eto yn berffaith. Tipyn o dasg pan roeddech chi mor nerfus â’ch dwylo’n siglo. Yn ystod y gystadleua­eth wnaeth y bachan wrth ein hochr ni gawlach o bethe’. Roedd e wedi dod o Hwngari, a chafodd e ddim hyd yn oed gweini ei pizza i’r beirniad! Wrth roi’r pizza ar y paddle fe rwygodd y toes a dyna ddiwedd ar ei gystadleua­eth.

Oes antur arall ar y gweill i Ffwrnes?

Y freuddwyd, rhyw ddydd, yw gallu agor bwyty bach parhaol, yn lle coginio o’r fan o hyd.

Ond, byddai trip arall yn braf hefyd. Efallai mynd i’r UDA i brofi’r pizza yn y wlad honno. Mae cymaint o amrywiaeth, o Chicago i New England i Efrog Newydd. Dwi’n credu y byddai hynny’n ddiddorol iawn. Bois Y Pizza: Nos Wener 22 Mehefin 8.25, S4C, Isdeitlau Saesneg

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom