Ail gyfle i weld cyfres ddrama boblogaidd
Mae S4C yn rhoi cyfle arall i wylwyr weld y fersiwn Gymraeg o’r ddrama boblogaidd Un Bore Mercher, sydd wedi cyfareddu gwylwyr ledled y DG.
Wedi’i ffilmio gefn wrth gefn yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r ddrama’n adrodd hanes Faith (Eve Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a’i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr, Evan, sy’n cael ei chwarae gan ŵr go iawn Eve Myles, Bradley Freegard.
Wedi’i datblygu gan S4C, a’i chyd-gomisiynu gyda BBC Wales, cafodd y ddrama ei dangos gyntaf ar S4C ym mis Tachwedd 2017. Wrth i BBC 1 ddechrau darlledu’r fersiwn Saesneg, Keeping Faith, mae S4C yn cynnig cyfle arall i weld y gyfres i gyd yn yr iaith Gymraeg, gydag isdeitlau, ar wasanaeth ar alw S4C, s4c.cymru, ac ar BBC iPlayer.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, “Un Bore Mercher yw’r gyfres berffaith i’w gwylio fel bocs set. Mae’n tywys y gwylwyr ar daith emosiynol o gariad, cyfrinachau a chelwyddau ac mae eisoes wedi dal dychymyg cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn hynod falch bod cynhyrchiad ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru yn cael ei ddangos ar BBC 1 rhwydwaith am y tro cyntaf erioed ac mae’n dyst i beth sy’n bosibl pan ddaw dau ddarlledwr cenedlaethol at ei gilydd i greu pethau gwych.”
Crëwr ac awdur y gyfres ddrama yw Matthew Hall, sy’n awdur y cyfresi poblogaidd Kavanagh QC, Dalziel and Pascoe a New Street Law, ac yn gyn fargyfreithiwr ei hun.
Ymysg rhai o’r actorion eraill sy’n ymddangos ochr yn ochr â Eve Myles yn y ddrama, mae ei chyd-actor o’r gyfres Broadchurch - Matthew Gravelle sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd o’r gyfres Byw Celwydd ar S4C, Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, National Treasure, Yr Ymadawiad) a Mali Harries ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/ Hinterland). Un Bore Mercher Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill Isdeitlau Saesneg