Cartref clyd y gantores Caryl Parry Jones
MAE sêr drwy Gymru gyfan wedi bod yn agor eu drysau i Nia Parry dros yr wythnosau diwethaf wrth iddi gael cip y tu mewn i’w pedair wal yn y gyfres Adre ar S4C.
Yr wythnos hon (nos Fercher, 1 Awst), bydd Nia Parry’n ymweld â chartref un o enwogion mwyaf Cymru, y gantores, actores a chyflwynydd aml-dalentog, Caryl Parry Jones.
Mae Caryl wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru dros y pedwar degawd diwethaf, yn canu a pherfformio ar lwyfan, yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, yn ysgrifennu sgriptiau ac yn ymddangos ar S4C mewn cynyrchiadau megis Ibiza Ibiza, Hapus Dyrfa, Anita a Caryl a’r Lleill i enwi dim ond rhai.
Cantores, awdures, cyfansoddwraig, sgriptwraig, bardd a DJ radio - oes unrhyw beth sydd y tu hwnt i allu Caryl? “Dwi’n methu dawnsio o gwbl,” meddai Caryl wrth sgwrsio â Nia. “Dwy droed chwith sydd gen i, dwi’n ofnadwy... Dwi wedi gwneud rhaglenni gyda choreograffwyr sy’n dweud, ‘Mae pawb yn gallu dawnsio!’ Ond o fewn pum munud maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n methu dawnsio o gwbl.”
Does dim goleuadau disgo llachar yng nghartref clyd Caryl a’i theulu yn Y Bont-faen ym Mro Morgannwg. Ond beth yn union wnaeth ddenu’r teulu i’r encil yma, Caeheulog, 30 o flynyddoedd yn ôl?
“Roedd angen lle arnom i adeiladu stiwdio recordio i Myf, a daethom fan hyn cyn i’r prisiau fynd yn wirion. Fe wnaethom ni ffeindio’r tŷ yma oedd â digon o le i greu stiwdio tu allan. ‘Ni wedi bod yn hapus iawn yma,” meddai’r artist sy’n wreiddiol o Ffynnongroyw, Sir y Fflint, yn fam i bump o blant ac yn wraig i’r cerddor a’r cynhyrchydd, Myfyr Isaac.
Wrth grwydro o gwmpas y cartref, cawn gwrdd â Myf ar ei dractor a chaiff sôn am ei briodas hapus â Caryl am dros 30 o flynyddoedd.
“Mae’r ffaith ein bod ni’n caru’n gilydd, ein bod ni wedi priodi ac mae plant gyda ni’n un peth, ond rydyn ni’n ffrindiau da, ac mae hwnna’r un mor bwysig â bod mewn cariad,” meddai Myfyr Isaac.
Cawn gyfle i weld sut mae Caryl yn croesawu ei theulu a’i ffrindiau i lenwi ei chartref gyda choginio llawn cariad a chynhesrwydd.
Wrth sôn am yr annibendod rhwng ei phedair wal meddai Caryl, “Mae’n dŷ neis, ond ‘da ni’n byw ynddo fo, felly mae llanast fan hyn a fan draw. Ond ‘sdim isie i dŷ edrych fel ‘operating theatre’ nag oes?!”