Caernarfon Herald

Maes B: O’r Llwyfan i’r Sgrin

-

MAES B: pinacl y Sîn Gerddorol Gymraeg. Dyma gyfle i Gymry ifanc ddod ynghyd i ddathlu, mwynhau ac ymfalchïo yng ngherddori­aeth Gymraeg gyfoes.

Ddim am gael cyfle i fynychu’r gigs eleni? Methu cael noson rydd o’ch gwaith i ddod i fwynhau? Neu, ydych chi’n teimlo ychydig yn rhy hen i fynd i Faes B eleni, ond dal eisiau profi holl helynt brawd bach drygionus yr Eisteddfod Genedlaeth­ol?

Peidiwch â phoeni – bydd cyfle i chi gael blas o uchafbwynt­iau Maes B Eisteddfod Genedlaeth­ol Caerdydd ar S4C gyda rhaglen arbennig o’r ŵyl, Uchafbwynt­iau Maes B 2018. A phwy fydd yn ein tywys? Y DJ Elan Evans ynghyd â Garmon ab Ion – un o wynebau cyfarwydd Hansh. Yn gadeirydd Maes B eleni, ac yn gweithio i’r Eisteddfod Genedlaeth­ol, mae gan Garmon ddigon i’w ddweud am yr ŵyl yn dychwelyd i’r brifddinas…

Mae hi’n ddeng mlynedd ers i’r Eisteddfod fod yng Nghaerdydd ddiwethaf. Beth mae croesawu’r Ŵyl unwaith eto yn ei olygu i’r brifddinas?

Mae ‘na lot o bobl yn erbyn cael Eisteddfod yng Nghaerdydd – ond dwi’n anghytuno. Pwrpas y ‘Steddfod yn y pendraw yw dathlu diwylliant Cymreig, a dyma’n cyfle i arddangos diwylliant cyfoethog Cymry Caerdydd. Dwi’n gobeithio bydd yr Eisteddfod yma’n ysbrydoli pobl i ymwneud mwy â’n diwylliant Cymreig, a hyd yn oed yn ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg. Mae eleni’n gyfle gwych i ddenu pobl newydd i’r Sîn Gerddoriae­th Gymraeg hefyd – hyd yn oed y rhai sydd ddim yn dod o gefndir Cymraeg. Dwi’n adnabod lot o Gymry di-Gymraeg fydd yn dod i gigs Maes B eleni.

Ti’n edrych ‘mlaen at gyflwyno Maes B 2018?

Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael cyflwyno’r uchafbwynt­iau. Bach yn sad – ond byth ers i mi wylio rhaglenni fel Bandit ar S4C yn iau, dwi wastad wedi bod eisiau bod yn gyflwynydd miwsig. Dwi’n methu chwarae offeryn, felly dyma un ffordd o fynd i mewn i’r Sîn. Mi fydda i’n DJio ym Maes B ar y nos Sadwrn hefyd, a dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr.

Beth wyt ti’n feddwl o lein-yp Maes B eleni?

Gan fod y ‘Steddfod yn un gwahanol iawn eleni, mae’r lein-yp yn wahanol iawn i rai’r gorffennol. Mae hi’n bwysig rhoi llwyfan i bethau newydd. Pwrpas Maes B yw gwthio, ehangu, a rhoi platfform i bobl newydd, yn hytrach na chael yr un gigs flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gyda Maes B Caerdydd, ni’n mynd am brofiad mwy esthetig yr ŵyl. Y profiadau gweledol; mwy na jest gig. Er enghraifft, mae Harry Hambley - neu Ketnipz - ffrind i mi ers yr ysgol gynradd, wedi creu murlun o’i gymeriad byd enwog, Bean, yn lleoliad Maes B eleni.

Pwy ti’n edrych ‘mlaen at wylio fwyaf?

Los Blancos, yn bendant. Nhw yw’r ones to watch. Fi’n dwlu arnyn nhw. Ma’ bois Mellt yn grêt hefyd - nhw yw’n hoff fand i. Ma’ nhw mor cŵl - y tri pherson mwya’ cŵl dwi’n adnabod!

Ac yn olaf: Unrhyw fand o unrhyw gyfnod – beth fyddai dy gig Maes B delfrydol di?

Anweledig, Derwyddon Dr Gonzo, Genod Droog… a Radio Luxembourg (Race Horses)!

Uchafbwynt­iau Maes B 2018 Nos Wener, 17 Awst, 9.45, S4C

 ??  ?? Garmon ab Ion
Garmon ab Ion

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom