Caernarfon Herald

Bon appetit! Mae Bryn yn ôl gyda’i gariad cynta’ yn Ffrainc

-

BETH fyddech chi yn ei wneud pe bai un o gogyddion mwya’r byd, Michel Roux Jr, am eich anfon i hyfforddi mewn bwyty dwy seren Michelin yn Ffrainc? Mynd wrth gwrs! Dyna yn union wnaeth Bryn Williams nôl yn 2001, a lle y bu’n mwynhau byw am dymor yn Ffrainc, a gweithio gyda’i gariad cyntaf - sef coginio Ffrengig clasurol.

Mewn cyfres newydd chwe rhan, Cegin Bryn: Yn Ffrainc, sy’n dechrau ar S4C nos Fercher 29 Awst, mae’n mynd ar drywydd bwyd a ryseitiau anhygoel a thraddodia­dol o Ffrainc, gan ymweld â marchnadoe­dd, bwytai, gwinllanno­edd, caffis a bariau ar hyd y daith.

Ers deng mlynedd bellach, mae Bryn wedi rhedeg bwyty ei hun – Odette’s ym Mryn y Briallu, Llundain. Yn nes at adref, yn 2015, fe agorodd ei fwyty ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, ac yn fwy diweddar, ar ddydd Gŵyl Dewi eleni, fe wnaeth agor bwyty arall yn adeilad enwog Somerset House, Llundain. Ond y profiadau a’r hyfforddia­nt a gafodd mewn bwyty yn Nice ar ddechrau ei yrfa sydd wedi cyfoethogi ei steil goginio, a dyma sydd wedi llunio ei yrfa a’i enw da.

“Un o’r pethau sy’n arbennig am goginio Ffrengig ydi bod yna stori tu ôl i bopeth. Mae’r ryseitiau wedi bodoli ers canrifoedd. Dwi o’r farn, pan rwyt ti’n deall y stori, rwyt ti’n gwneud dy swydd yn well. Dyna ‘dwi’n ei garu am fwyd Ffrengig - y cysondeb,” meddai Bryn Williams, y cogydd 41 oed a ddaw’n wreiddiol o Ddinbych.

“Fe wnaeth y cyfnod o weithio yn Nice ddylanwadu gymaint arna i; y ffordd o fyw a’r bwyd. Pan oni’n gweithio yn Llundain, roeddwn i’n cyrraedd y gwaith yn gynnar, ac yn cyrraedd adre’n hwyr. Ond yn Nice roeddwn i’n cyrraedd y gwaith am 9.30, yn cael amser i gerdded ar lan y môr, cyn gweithio am dipyn bach eto. Yna, ro’n i’n gorffen am tua 3.00 cyn mynd yn nôl i’r gwaith yn nes ymlaen. Roedd y coginio hefyd yn lot ysgafnach ac yn defnyddio lot mwy o lysiau o’i gymharu efo be oni wedi arfer.”

Yn ei gyfres newydd ar S4C, mi fydd taith Bryn yn cychwyn ym Mharis lle bu’n gweithio yn y Patisserie Millet, ac yna’n ein tywys yr holl ffordd i Nice, ar arfordir y Côte d’Azur. Bydd hefyd yn ymweld â Veneux-Les Sablons tu allan i Baris, Donzy Le National, Lyon, a phentref Tourettes Sur Loup. Ar hyd y ffordd mae e’n profi cynnyrch gorau Ffrainc, yn coginio ryseitiau Ffrengig, ac yn cwrdd â Chymry Cymraeg sydd wedi ymgartrefu yn y wlad.

“Y rheswm mae pawb yn symud i Ffrainc yw ar gyfer y bwyd! Fy hoff beth o ffilmio’r gyfres yn sicr oedd yr atgofion. Roedd hi mor neis cyfarfod pobl o Gymru a chlywed eu straeon nhw. Bob tro, roedd yna elfen o’u straeon nhw o’n i’n gallu’n deall am fy mod i hefyd wedi byw yn Ffrainc,” meddai Bryn.

“Pe bawn i’n cael fy nghicio allan o Brydain ‘fory, i Ffrainc fydden i’n mynd!” Cegin Bryn: Yn Ffrainc Nos Fercher 29 Awst 8.25, S4C

 ??  ?? Bryn Williams
Bryn Williams

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom