DYDD SUL DRYCH: O’R YSGOL I’R PROM, S4C, 9.00
YDYCH chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod popeth am chwaraeon? A’i chi sy’n gweiddi ar y sgrin pan mae’r cystadleuwyr mewn cwis yn ateb yn anghywir?
Gyda’r tymor chwaraeon ar ei hanterth, mae’n amser i Gareth Roberts ddod o hyd i Gefnogwr Chwaraeon Mwyaf Gwybodus Cymru mewn cwis newydd sbon, Y Ras, sy’n dechrau ar S4C ar nos Wener 14 Medi.
Yn y cwis newydd yma, mi fydd angen i’r cystadleuwyr fod ar flaenau eu traed. Mi fyddwn yn profi eu cyflymder gyda’r bys ar y botwm, ac yn erbyn y cloc. Mi fydd angen cof cryf er mwyn goroesi rowndiau arbenigol a dangos dygnwch i gyrraedd y llinell derfyn.
Yn cadw trefn ar y cyfan, ac yn gosod yr heriau, fydd y cyflwynydd profiadol, Gareth Roberts.
“Mae’n gwis sy’n symud yn gyflym, sy’n gweithio’n dda iawn er mwyn eich tynnu chi i mewn i’r ras,” meddai Gareth, a fydd yn profi hygrededd y cystadleuwyr mewn pum rownd pob wythnos.
“Yn y rownd gyntaf, ry’ ni ar drac rhedeg. Gyda bysedd ar y botwm, mi fydd y cystadleuwyr ‘Ar Ras’ i ateb y cwestiynau chwim er mwyn croesi’r llinell derfyn a hawlio’r wobr Efydd, Arian neu’r Aur. Cwestiynau ar bwnc arbenigol sydd yn yr ail rownd - ac mae angen gwybodaeth drylwyr i’w hateb. Byddwn ni yna’n symud ymlaen at rownd ‘Y Gêm’, sy’n gyfres o gwestiynau ar gategorïau gwahanol. Fe all y bedwaredd rownd newid trywydd y ras yn llwyr, gyda phum pwynt ar gael i’r cystadleuydd cryfaf. Ac yna, i gloi, mae cyfle arall i rasio rownd y trac, ac ail-gyfle i gipio medal Aur.”
Cwis ar gyfer unigolion yw Y Ras, gyda phedwar person yn brwydro ym mhob rhaglen am y cyfle i gystadlu yn y rownd gynderfynol. Yna, mi fydd wyth yn haneru i bedwar ar gyfer y ffeinal; cam yn nes at ennill y gyfres a chael brolio mai nhw yw Cefnogwr Chwaraeon Mwyaf Gwybodus Cymru!
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel cyflwynydd rhaglenni chwaraeon, sut un yw Gareth mewn cwis? Pe bai e’n cyfnewid lle â’r cystadleuwyr, ai rygbi fyddai e’n dewis fel pwnc arbenigol?
“Er mod i wedi cyflwyno llawer o raglenni rygbi yn ystod fy ngyrfa, pêl-droed oedd fy ngêm i pan ro’n i’n iau. Pe bawn i’n cystadlu yn Y Ras mi fuaswn i’n dewis hanes clwb pêl-droed Everton yn yr 80au fel pwnc arbenigol!”
Os am ychydig o chwys, drama a thensiwn, Pentathlon Y Ras yw’r cwis i chi. MAE digwyddiad y ‘prom’ blynyddol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ar dwf.