Caernarfon Herald

DYDD IAU Y SALON, S4C, 9.30

-

AR ôl ei fuddugolia­eth hanesyddol yn Rali Cymru GB y llynedd, bydd Elfyn Evans yn hyderus o allu rhoi perfformia­d arall i’w gofio yn y rali eleni, yn ôl y gyrrwr rali o Fachynllet­h, Osian Pryce.

Ni fydd Pryce yn gyrru yn y rali eleni wrth iddo geisio cynilo ei arian er mwyn cystadlu’r tymor nesaf. Ond mi fydd Pryce, sydd wedi cystadlu mewn sawl rali Pencampwri­aeth y Byd dros y blynyddoed­d diwethaf, yn rhan o’r tîm Ralïo+ fydd yn darlledu rhaglenni uchafbwynt­iau bob dydd o Rali Cymru GB eleni yn ogystal â tri cymal byw.

Emyr Penlan a Llinos Lee fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gydag Osian a Gwyndaf Evans, y cyn bencampwr rali sy’n dad i Elfyn, yn dadansoddi’r cymalau. Bydd Hana Medi yn gohebu ar y rali ac yn cyfweld â’r gyrwyr, tra bod Rhys ap William a Howard Davies yn y blwch sylwebu. Cyn y rali fawr eleni, cawsom sgwrs gydag Osian i edrych ymlaen at y penwythnos.

Fel gyrrwr rali o Gymru, sut oeddet ti’n teimlo’n gweld Elfyn yn ennill y rali y llynedd? Dw i’n nabod Elfyn ers oeddwn i’n ifanc iawn a ‘da ni’n ffrindiau da. Mae’n rhywbeth wna’i byth anghofio i fod yn onest, achos oeddwn i’n rhan ohono yn rhan o dîm Ralïo+. Oedd gweld un o’n ffrindiau yn ennill, rhywun sydd wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y pwynt yna, yn gwbl arbennig. Wrth gwrs, dw i yn ceisio dilyn yr un llwybr ag Elfyn mewn ffordd a dw i jyst angen cadw i fynd a gobeithio y bydda’ i yn ei safle o fewn ychydig flynyddoed­d.

Mae Elfyn wedi cael tymor sigledig ym Mhencampwr­iaeth Rali’r Byd eleni. Beth fydd ei feddylfryd cyn y rali yma? Mae ‘na fwy o bwysau arno i ddod yn ôl a cheisio ennill am yr ail dro, ac mi fydd pawb yn disgwyl iddo ennill. Dydi hynny ddim wastad yn beth da. Ond mae o wedi cael lot o anlwc y tymor yma, a hynny ddim yn fai arno fo, sy’n beth rhwystredi­g iddo oherwydd ‘di o methu gwneud dim byd am y peth. Ydy, mae o wedi gwneud ambell i gamgymeria­d ei hun a ‘di cael ambell i rali wael yn ddiweddar ond mi fydd o’n benderfyno­l o geisio rhoi hynny tu ôl iddo yn y Rali Cymru GB. Mae o wedi ‘neud o o’r blaen ac mi wneith hynny roi hyder iddo yn sicr. Mae’n rhaid iddo anelu at ennill ond mi fyddai cyrraedd y podiwm yn ganlyniad da hefyd.

2010 oedd y flwyddyn gyntaf i ti gymryd rhan yn Rali Cymru GB – beth yw dy atgofion di o’r rali? Dim ond 17 mlwydd oed oeddwn i yn rasio yn fy Rali Cymru GB gyntaf yng Nghaerdydd, y gyrrwr ifancaf, ac fe wnaethon ni ennill y dosbarth o 28 munud. Mae hwnnw’n atgof sy’n sefyll allan achos ar y pryd doeddwn i didm yn meddwl fyswn i’n ● Osian Pryce mynd ymlaen i yrru mewn 15 rali arall o’r WRC, ac roeddwn i’n meddwl mai dyna oedd y pinacl ar y pryd. Mae lot o bethau neis a gwael ‘di digwydd ers hynny, ond wnâi byth anghofio hynny’n sicr.

Ac ar ôl tymor tawel i tithau, beth yw’r cynllun am y flwyddyn nesaf? Dw i ‘di neud ambell i rali eleni mewn Escort MKII, just am sbort. Pres yw popeth yn anffodus ac mae gennyf bobl a noddwyr yn fy helpu i, felly gobeithio byddaf i’n gallaf i ail-ddechrau y tymoe nesaf. Nes i stryglo i gael y pres ynghyd y llynedd, felly dw i jyst ‘di gael blwyddyn dawel eleni a a gobeithio caf i flwyddyn well blwyddyn nesaf. MAE drysau’r salon ar agor unwaith eto. Dyma le mae pawb â’i farn, ac yn cael dweud eu dweud yn gwbl ddi-flewyn ar dafod. Mi fydd y tafodau miniog yn ddigon i wneud eich gwallt i droi’n llwyd yng nghanol y sisyrnau a’r bybls. Mae rhai o’ch hoff gymeriadau nôl yn y gadair, ond fe fydd yna ambell wyneb newydd hefyd. Clustfeini­wch ar sgyrsiau difyr y Salon – o’r clecs lleol i’r newyddion pwysig diweddaraf. Nid lle trin gwallt yn unig ydy’r salon… dyma’r blwch cyffes modern, lle mae cwsmeriaid yn rhannu bob math o gyfrinacha­u!

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom