DYDD MERCHER YR AIL RYFEL BYD - BRWYDR STALINGRAD, S4C, 9.30
Mae Siôn wedi gwirioni’n lân gyda ‘Blodeuwedd’, y robot Cymraeg! Ond dyw Anita ddim yn rhy hoff o ‘ffrind’ newydd Siôn.
Ydi Eifion ar fin gwneud rhywbeth dwl? Ceisia Eileen berswadio Eifion i beidio rhedeg i ffwrdd gyda’i feibion. Mae Britt yn trefnu parti Calan Gaeaf munud ola’ yn Y Deri.
Mae Anita yn difaru bod yn y tŷ ar ei phen ei hun ar noson Calan Gaeaf. A wnaiff Jason lwyddo i gadw ei gyfrinach rhag Sara?
Daw Dai o hyd i hen lun sydd yn codi lot o gwestiynau. Ceisia Dai ddarganfod mwy am orffennol Non trwy fynd i’r fynwent i chwilio am y gwirionedd.
Mae Hywel yn cerdded i mewn ar ei gyn-wraig heb ei dillad! Pobol y Cwm:
Mae Kelvin mewn tipyn o benbleth - dydy o ddim yn siwr os ydy o eisiau mynd i Lerpwl efo Lowri ar y cwrs trin gwallt, ac wrth gwrs, fydd Philip wrth ei fodd os nad yw am fynd. Dim ond gobeithio nad ydi o am newid ei feddwl.
Ar ôl gwneud cymaint o ffwl o’i hun yn trio cusanu Carys, mae gan Dylan dipyn o waith ymddiheuro, ond yn anffodus mae Mathew yn darganfod be ddigwyddodd. Ar ôl gweld y ddau hefo’i gilydd yn y caffi, yn llygad Mathew, mae’n gadarnhad fod y ddau’n cael perthynas.
Mae perthynas John a Mags yn dal i bryderu Sian ac ar ôl be mae’n ei weld heddiw mae ei amheuon yn cryfhau. Mae Sian yn benderfynol o holi Mags be sy’n digwydd. Rownd a Rownd: RHAGLEN ddogfen yn olrhain cwymp Adolf Hitler drwy gyfrwng archif a dramateiddio. Credir nifer fod y cwymp hwn wedi dyfod ymhell cyn diwedd y rhyfel yn 1945, yn wir mae rhai yn dweud mai’r 22ain o Fehefin 1941 - pan gychwynnodd frwydr anferthol yn erbyn yr Undeb Sofietaidd - oedd yr union ddyddiad ble collodd Hitler y rhyfel.