Caernarfon Herald

DYDD GWENER BWYD EPIC CHRIS, S4C, 8.25 O Frisbane i Gymru: S4C yn symud mynyddoedd mewn cyfres newydd deimladwy

-

BYDD cyfres newydd, afaelgar yn dechrau ar S4C yn fuan sydd am fentro i dir sydd erioed wedi ei droedio o’r blaen ar y sianel. Mae Gwesty Aduniad yn gyfres unigryw i S4C sy’n ceisio dod â phobl sydd wedi colli cysylltiad - neu sydd eisiau cyfarfod am y tro cyntaf - nôl at ei gilydd.

Mae rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, bydd y Gwesty hwn yn dad-gloi stôr o straeon.

Bydd y Gwesty hefyd yn aduno teuluoedd sydd wedi gwasgaru o achos mabwysiadu, a chawn wylio’r eiliadau tyngedfenn­ol ar y sgrin wrth i ddieithria­id droi’n deuluoedd yn Gwesty Aduniad. Bydd dagrau, chwerthin ac emosiwn wrth i chwiorydd, brodyr, mamau a thadau ddechrau rhannu bywydau yn Gwesty Aduniad.

Yn y bennod gyntaf o’r gyfres chwe rhan sy’n dechrau ar S4C nos Iau, 8 Tachwedd, bydd y Gwesty yn agor drysau i wraig sydd wedi teithio deng mil o filltiroed­d i gyrraedd Gwesty Aduniad.

Ar ôl deugain mlynedd o chwilio, daeth Jaqueline Kerr o Frisbane o hyd i’w hanner chwaer, Sian Messmah o Landrillo yn Rhos, yn sgil prawf DNA. Gwesty Aduniad yw penllanw ei thaith hirfaith - nid yn unig o deithio, ond o chwilio am yr unigolyn dieithr yma sy’n rhan annatod o’i bywyd, er iddynt erioed gyfarfod o’r blaen.

“Alla’ i ddim aros i’w chyfarfod hi. Yr holl flynyddoed­d sydd wedi eu colli – mae’n rhaid gwneud fyny amdanyn nhw,” meddai Jaqueline.

Pan oedd Jaqueline yn dair oed, daeth Joyce, mam fiolegol Sian, i fyw at ei theulu. Symudodd Jaqueline â’i mam i fyw i Awstralia am ddeunaw mis, a dyna pryd dechreuodd perthynas rhwng Joyce â thad Jaqueline, Alexander.

“Roedd o’n amser hir iawn i adael rhywun. Ond roedd yr hyn oedd gan y ddau yn sbesial. I mi, Sian yw ffrwyth y cariad hwnnw,” ychwanegod­d Jaqueline.

Beichiogod­d Joyce, ond bu’n rhaid iddi roi Sian i fabwysiadu yn fuan ar ôl ei genedigaet­h. Mae Sian wedi bod yn chwilio am berthynas gwaed ers chwarter canrif.

“O’n i’n gwybod ers mod i’n bedair ar ddeg mod i wedi’n mabwysiadu.” meddai Sian, “Mi roedd ‘na rhyw gysgod bach mewn ffordd, yn atgoffa fi ‘Ma’ ‘na rywun yn rhywle yn dy golli di, a ti’m hydnod yn gwybod pwy ydyn nhw’”

Er i Sian erioed gyfarfod ei rhieni gwaed, mae Gwesty Aduniad wedi rhoi cyfle iddi gysylltu gyda’i gorffennol drwy ei huno â’i hanner chwaer.

Bydd pob unigolyn sy’n dod i’r Gwesty arbennig hwn yn cyrraedd penllanw taith bersonol - weithiau’n anodd, weithiau’n llawn rhyddhad – wrth rannu aduniad teimladwy gyda rhywun arbennig o’u gorffennol. Beth bynnag ddaw, mae un peth yn sicr i bob person sy’n cerdded drwy’r drws – mae bywyd ar fin newid am byth. Gwyliwch y cyfan ar S4C ar nosweithia­u Iau.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom