DYDD SADWRN CHWILIO AM SEREN JUNIOR EUROVISION: MANW YN MINSK, S4C, 7.35
Bydd digon o hwyl yng Nghanolfan Celfyddydau y Memo, Y Barri nos Sadwrn, 17 Tachwedd, wrth i Forgannwg groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2018.
O 7:15 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben, Anni Llŷn, Lisa Angharad ac Ifan Jones Evans fydd yn dod â holl gyffro’r digwyddiad, o’r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C.
Dyma’r tro cyntaf erioed i Ffederasiwn Morgannwg gynnal yr Eisteddfod, ac mae un o’r trefnwyr lleol, Elen Williams, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cystadlaethau CFfI Cymru yn meddwl ei bod hi’n bwysig i’r digwyddiad deithio i lefydd newydd.
“Mae’n fraint i ni fel sir i gynnal yr eisteddfod,” meddai Elen, sy’n 26 ac yn dod o Gastell-nedd. “Mae pobl yn siarad Cymraeg yma, ond falle ddim fel iaith gyntaf, felly ni ‘di bod yn gweithio’n galed i gael yr aelodau i gyd on board.”
Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yw’r unig Eisteddfod ddwyieithog o’i fath yng Nghymru, ond eleni, am y tro cyntaf, bydd cystadleuaeth llefaru i’r rhai sy’n dysgu’r Gymraeg hefyd. Meddai Elen ei bod hi’n bwysig i’r aelodau iau yn y sir weld yr iaith yn cael ei defnyddio.
”Fi yw swyddog iaith Gymraeg y sir hefyd,” ychwanega Elen. “Felly mae’n bwysig i ni hyrwyddo’r iaith a chael mwy o aelodau i wneud pethau trwy’r Gymraeg a dyna ni’n ceisio gwneud gyda’r gystadleuaeth newydd.”
Ond oes gan Elen hoff gystadlaethau mae hi’n edrych ymlaen at eu gweld yn ystod y noson? “Mae hwnna’n un caled,” meddai Elen. “Mae’r côr yn un lyfli i orffen, ond i fi, y ddeuawd neu triawd doniol yw’r rhai fi’n cofio. Mae’r ffordd maen nhw’n sgwennu’r geiriau mor dda a mae nhw wastad yn cael y gynulleidfa i gymryd rhan ac ymuno!”
Ac os ydych chi am fwynhau rhagor o gwmni’r ffermwyr ifanc, bydd rhaglen uchafbwyntiau arbennig yn cael ei darlledu cyn diwedd y flwyddyn. CYFLE arall i weld rhaglen gyffrous yn olrhain taith Manw Lili Robin, o Rostryfan - o’r cyfweliad cyntaf ar gyfer cyfres S4C ‘Chwilio am Seren Junior Eurovision’ i Lwyfan Arena Minsk, Belarus am y gystadleuaeth fawr. Cawn weld yr holl baratoadau dawnsio a chanu, y broses o wneud fideo cerddorol yng Nghymru, ac yna’r wythnos o baratoi ym Minsk wrth lwyfannu a dysgu’r ddawns a’r gân agoriadol.