CLYNNOG FAWR
COMMUNITY WEBSITE: The Community Council intends to establish a community website which will include details of the work of the Community Council but will also have space for other information such as local history, forthcoming events, etc. Anyone with ideas regarding the site are welcome to contact the Clerk (01286 660141). EBENESER: Chwefror 10: 10yb Y Parch Trefor Jones, Caernarfon. CANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI: Ddydd Sadwrn traddodwyd dwy ddarlith gan Bob Morris ar Gymru yn y ddeunawfed ganrif yn y gyfres Ein Gwir Hanes (17). Llywyddwyd gan J Dilwyn Williams. Bydd y cyfarfod nesaf am 7yh, nos Wener, 22 Chwefror, pryd y disgwylir sgwrs gan Wyn Thomas, Thomas, Bangor, ar Gerddorion y Coleg ar y Bryn. SEFYDLIAD Y MERCHED: Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o’r Flwyddyn Newydd o’r Sefydliad yn y Neuadd Bentref, nos Iau, Ionawr 17, roedd hwn yn Gyfarfod Blynyddol. Estynodd y Llywydd, Janet Lewis, groeso cynnes a Blwyddyn Newydd Dda i bawb oedd yn bresennol. Hefyd croesawodd atom Margaret Lloyd Jones, V.C.O. ac aeth ymlaen gyda’r gwaith o ethol Swyddogion ar gyfer y flwyddyn 2019, fel a ganlyn: Llywydd – Janet Lewis; Ysgrifennyddion – Grace Williams a Menna P Jones; Trysorydd – Margaret Evans; Swyddog y Wasg – Doris Lloyd Roberts; Pwyllgor – Gweddill o’r Aelodau. Cafwyd adroddiad o’r gweithgareddau yn ystod y flwyddyn gan yr Ysgrifennydd a’r Fantolen Ariannol gan y Trysorydd a derbyniwyd rhain yn gywir. Diolchodd Margaret Lloyd Jones i bawb am wneud ei gwaith yn rhwydd a diolchodd y Llywydd iddi hithau am ei gwaith yn ystod y noson. Gwestai te a rhoddwyr y raffl oedd Janet a Grace a’r enillydd oedd Margaret Lloyd Jones. Bydd y cyfarfod nesaf, Nos Iau, 7 Chwefror.