DYDD MERCHER ANTARCTICA: ANTARCTICA MEWN PERYGL, S4C, 10.15
Mae Ed yn poeni fod Jason yn gwybod am ei gyfrinach dywyll, ac mae’r Parris yn gwneud penderfyniad mawr.
Mae pawb ym Mhenrhewl yn poeni am Sioned, tra bod Diane yn arbed croen Jason.
A fydd Aaron yn derbyn y cynnig i gyfarfod â Ben yn y cnawd? Mae Gwyneth, yn y cyfamser, yn yfed er mwyn dygymod â’i hunigrwydd.
Mae Jaclyn yn falch bod ei mam yng nghyfraith am ddychwelyd i’w fflat yn Llandysul.
Pwy ddylai Ed a Kelly wahodd i’w priodas? - mae Ed yn gor-ymateb pan mae Kelly yn digwydd dweud enw Angela! Mae wyneb o’r gorffennol yn helpu Hywel gyda’i ganiatâd cynllunio.
Clirio a glanhau ydi tasgau’r diwrnod yn y salon yn dilyn y digwyddiad anffodus gyda’r dŵr yn arllwys trwy’r nenfwd. Cawn yr argraff bod Philip yn gwybod mwy nag y mae’n fodlon ei gyfaddef a chyn diwedd y dydd daw wyneb yn wyneb â’r un sy’n gyfrifol.
Ynghanol y llanast yn y salon caiff Jac gynnig sy’n apelio’n fawr ato, ond gwelwn o’r cychwyn nad yw’n apelio cymaint at Dani.
Yn Tŷ Pizza caiff Arthur a Barry gyfle prin i gydweithio er mwyn dysgu gwers i Jason a sicrhau bod y diogi yn dod i ben.
Mae Kelvin druan yn gorfod gwneud y tro ar focs bwyd annigonol o adre’ gan ei fod yn dal i wrthod prynu dim o’r siop na’r caffi oherwydd perthynas Lowri a Philip. Rownd a Rownd: YN ail raglen y gyfres, byddwn yn dychwelyd i Antarctica i weld sut mae creaduriaid unigryw yn llwyddo i oroesi’r hinsawdd eithafol - amgylchfyd sydd mewn perygl o ganlyniad i weithgaredd dyn. Plymiwn i ddyfnderoedd y llynnoedd islaw’r rhew am y tro cyntaf, a datgelwn fwy am gyfrinachau’r bywyd gwyllt a’r micro-organebau sy’n ffynnu o dan yr amodau eithafol. Drwy ffotograffiaeth anhygoel a CGI, dysgwn am fywyd yn Antarctica - tir ffrwythlon ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg y dyfodol.