DYDD SADWRN 35 AWR, S4C, 9.00
Mae’r rhaglen boblogaidd, Noson Lawen yn edrych i’r dyfodol gyda winc i’r gorffennol.
Mae set a delwedd newydd i’r gyfres yn cadw’r awyrgylch gartrefol a chynnes, ond ar yr un pryd yn talu teyrnged i wreiddiau’r rhaglen ers ei dechrau yn 1982.
Cwmni Da sydd yn cynhyrchu Noson Lawen ar gyfer S4C a dywed y cynhyrchydd Olwen Meredydd:
“Roeddan ni’n teimlo mai un o hanfodion y nosweithiau llawen gwreiddiol oedd eu bod yn rhywbeth oedd wedi eu creu hefo cariad a gofal – yn llwyfan a lle i fwynhau a dathlu talent.”
“Mi benderfynom ni greu set newydd i’r Noson Lawen oedd yn ymgorffori rhinweddau canolog y Noson Lawen, agosatrwydd at y gynulleidfa, awyrgylch anffurfiol a hwyliog a hefyd tynnu o draddodiad gwerinol y nosweithiau llawen gwreiddiol. Mae’r Noson Lawen wedi rhedeg ar S4C ers 1982 sydd yn brawf fod yna gynulleidfa barod ar gyfer y gyfres, ac wrth gwrs mae ‘na wastad le i wylwyr newydd.
“Felly’r hyn ’da ni wedi ei wneud ydi edrych yn ôl i hanes a chefndir Noson Lawen gan ymchwilio i’r Noson Lawen fel ffenomenon Cymreig. Rydym yn tynnu ar y gwreiddiau ond yn ei gyflwyno i gynulleidfa heddiw. Tyda’ ni ddim wedi camu nôl ond wedi cael ein hysbrydoli i gyflwyno’r traddodiad a’r hanes mewn ffordd apelgar sy’n gyfoes a pherthnasol heddiw.”
“Roedd hi hefyd yn fwriad i greu awyrgylch fwy anffurfiol i’r rhaglenni drwy gynnwys sgyrsiau ar y llwyfan a chefn llwyfan er mwyn dod i adnabod rhai o’r artistiaid yn well.”
Dywedodd Elen Rhys, comisiynydd rhaglenni adloniant S4C bod y sianel yn ymfalchïo yn y Noson Lawen.
“Mae Noson Lawen wedi cael ei hadfywio ond mae calon y rhaglen yr un fath. Mae Noson Lawen yn un o drysorau amserlen S4C ac rydym ni eisiau gweld hyn yn parhau i’r dyfodol.”
Fel un o arweinwyr y nosweithiau hwyliog, mae Ifan Jones Evans yn gyfarwydd iawn gyda’r rhaglen Noson Lawen ac wrth ei fodd gyda’r newidiadau.
“Mae’r sioe wedi cael ychydig o newid gwedd,” esboniodd Ifan. “Mae’n fwy anffurfiol - mae’r fformat yn teimlo tipyn bach mwy ‘ffwrdd a hi’. Mae Noson Lawen yn rhaglen eiconig ar S4C - ac yn un o’r rhaglenni ‘na sy’n apelio at bawb - mae’n mynd o nerth i nerth.”
Felly beth mae Ifan yn meddwl yw cyfrinach llwyddiant Noson Lawen? thalentau ifanc. Mae’r gynulleidfa yn gweld rhai o artistiaid mwyaf Cymru yn ogystal ag artistiaid lleol,” medd Ifan. “Hefyd mae’n rhoi’r cyfle i dalentau ifanc i berfformio ar y llwyfan a pherfformio o flaen cynulleidfa. Mae’n cynnig cyngerdd o’r safon uchaf ac mae’r Cymry yn hoffi cyngerdd.”
Mae Noson Lawen yn cael ei darlledu o Lambed ar Nos Iau, Chwefror 7 am 8.00. Yn ymuno ag Ifan ar y noson mae rhai o brif artistiaid Cymru gan gynnwys Meinir Gwilym, Ryland Teifi, Gillian Elisa, Bwncath, Bois y Rhedyn, Côr Dwynant a thalent ifanc Alwena Mair Owen o Lanllwni.
Fel un o ardal Tregaron mae Ifan yn cyfaddef bod tipyn o gystadleuaeth rhwng Llambed a Thregaron, felly sut ymateb cafodd ef gan gynulleidfa Llambed? Gyda dim ond pum awr i fynd, pa un o’r rheithgor fydd yn gelain erbyn diwedd y noson, ac ydyn ni rhywfaint yn agosach at ddarganfod os ydy Kelvin yn euog ai pheidio? Beth mae Matt yn gobeithio ei ddarganfod ar gyfrifiadur Ree, ac ydy Ree mewn peryg o gael ei dal wrth iddi grwydro o ystafell i ystafell yn y gwesty? Ydy Nadine yn chwarae rhyw gêm, neu ydy hi wirioneddol yn cael ei denu at Carwyn? Mae Haydn yn ceisio canfod cyfrinach Lynwen, pwy yn hollol yw Caleb? Mae Steve yn gwario mwy o’i amser yn stafell atig y gwesty - a yw’n bwriadu caethiwo rhywun?