Cân i Gymru - dyfodol disglair i eicon Cymreig
R OEDD 1969 yn flwyddyn arbennig - fe laniodd dyn ar y lleuad am y tro cyntaf, roedd John Lennon a Yoko Ono yn gwneud eu ‘Bed-ins’ yn Amsterdam ar gyfer heddwch a dyma’r flwyddyn pan gafodd y darn arian 50c ei gyflwyno.
Ar yr un pryd - draw yng Nghymru roedd rhywbeth cyffrous iawn yn digwydd am y tro cyntaf erioed, sef cystadleuaeth Cân i Gymru.
Yn wir - yn union fel sêr tebyg i Jennifer Anniston, Cate Blanchett a Sali Mali - mae Cân i Gymru yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner canrif eleni.
Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru 2019 yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Ddydd Gwyl Dewi ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.
Ond cyn hynny ar Chwefror 28 bydd rhaglen arbennig - Cân i Gymru: Dathlu’r 50 - yn edrych yn ôl ar 50 mlynedd o’r gystadleuaeth eiconig.
Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglenni ar gyfer S4C, wedi addo dathliad arbennig iawn i ben-blwydd Cân i Gymru.
Dywedodd wrth Yr Herald Cymraeg: “Rydym wedi paratoi rhaglen ddogfen arbennig.
“Rydym wedi cyfweld â nifer o bobl sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol yn ogystal â’r bobl sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth boed yn gyfansoddwr, perfformiwr, cyflwynydd, neu gynhyrchydd.
“Byddwn yn edrych ar hanes y gystadleuaeth - y bwriad gwreiddiol gan y diweddar Dr Meredydd Evans oedd cael Cymru mewn i’r Eurovision.
“Yn anffodus nid oedd yn llwyddiannus, ond mae’r gystadleuaeth (Cân i Gymru) wedi parhau ac yn dal i fod mor boblogaidd heddiw.”
Y gantores Margaret Williams enillodd y gystadleuaeth gyntaf yn 1969 ac mae’n cymeryd rhan yn y rhaglen arbennig.
Meddai Margaret: “Mae cymaint o atgofion melys gen i am ‘Cân i Gymru’, yn enwedig y cyfeillgarwch rhwng y cantorion - roeddem ni i gyd mor ifanc ac mor gyffrous am yr holl beth.
“Rwy’n cofio bod mor hapus bod ‘Cwilt Cymreig’ wedi ennill - roedd hi’n gymaint o sypreis.”
Enillodd Elin Fflur y gystadleuaeth yn 2002 wrth ganu’r gân Harbwr Diogel.
Mewn cyngerdd diweddar yn y Galeri Caernarfon dywedodd Elin wrth y gynulleidfa fod y gystadleuaeth wedi agor llawer o ddrysau iddi.
“Mae’n anodd credu ei fod hanner fy oes yn ol erbyn hyn.
“Roeddwn ond yn 17 oed bryd hynny ac mae llawer wedi dweud wrthyf fod gan y gân ystyr arbennig iddynt a’u bod ag atgofion arbennig o Harbwr Diogel. A hynny am lawer o wahanol resymau.
“Roeddwn yn siared gyda Mam am y gystadleuaeth yn ddiweddar ac roedd yn sydyn iawn i’m hatgoffa ei bod hi wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru ddwywaith.”
Dros y blynyddoedd mae llawer o gantorion enwocaf Cymru wedi cystadlu am y wobr hael a mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Iwerddon.
Eleni bydd wyth act ar lwyfan ‘Cân i Gymru’ ar y noson yn cystadlu am £5,000, cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd ac wrth gwrs yr anrhydedd o ennill y tlws a’r teitl Enillydd Cân i Gymru 2019.
Ychwanegodd Elin: “Mae Cân i Gymru yn ddigwyddiad mawr ac mae’r dathliadau 50 yn ei gwneud hi’n fwy arbennig.
“Dwi wedi clywed am lot o bobl yn cael parti Cân i Gymru, sy’n wych dwi’n meddwl. Ac wrth gwrs, mae pobl wrth eu boddau’n trydar ac yn dilyn Twitter yn ystod y rhaglen.
“Mae Cân i Gymru wedi newid ac addasu i gynulleidfaoedd dros y blynyddoedd ac mae llwyddiant y gystadleuaeth yn amlwg gyda niferoedd cystadlu ar ei uchaf ers blynyddoedd – dyna pam mae’r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus.
“Dwi wir yn credu y byddwn ni’n dathlu canmlwyddiant Cân i Gymru!” ● Cân i Gymru: Dathlu’r 50 ar S4C, nos Iau, Chwefror 28 am 8pm ● Cân i Gymru 2019 ar S4C nos Wener, Mawrth 1 am 8pm