Adfywiad o ddrama nodedig sy’n parhau’n berthnasol heddiw
MAE bron i hanner can mlynedd wedi mynd heibio ers i Theatr Fach Llangefni lwyfannu y ddrama Pros kairon gan Huw Lloyd Edwards.
Ond mae cyfle i weld y ddrama unwaith eto gan mai’r ddrama hon ydi cynhrychiad diweddara Theatr Fach.
Merch ifanc o Fryngwran, Llio Mai sy’n cyfarwyddo. Dyma’r tro cyntaf iddi gyfarwyddo yn Theatr Fach ac roedd dewis drama i’w chynhyrchu yn waith llawer anoddach nag yr oedd hi wedi’i ragweld.
Meddai Llio wrth Yr Herald Cymraeg: “Wedi astudio nifer o ddramâu’r cyfnod rhwng 1945 a 1979 ar gyfer fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, roedd sawl un o’r
dramâu rheiny yn apelio, gan fod nifer yn haeddu gweld golau dydd unwaith eto.
“Dramâu fel Y Tad a’r Mab (1963) gan John Gwilym Jones, Dinas Barhaus (1968) gan Wil Sam, Y Cymro Cyffredin (1969) gan Tom Richards ac Y Ffin (1975) gan Gwenlyn Parry.
“Wrth feddwl am weithiau’r cyfnod, roedd un ddrama yn denu fy sylw o hyd ac o hyd.
“Pros Kairon (1967) gan Huw Lloyd Edwards oedd y ddrama honno, drama o gomisiynwyd gan Gwmni Theatr Cymru a’i pherfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966.”
Pam Pros Kairon felly?
“Wel, er bod elfennau ohoni wedi dyddio rhyw fymryn erbyn hyn, megis yr iaith sydd braidd yn ffurfiol ar adegau, mae hi’n ddrama sy’n dal i ganu sawl cloch hyd heddiw, a’i negeseuon yr un mor berthnasol ag yr oeddent yn y 1960au.
“Mae yna hefyd gyswllt gref rhwng y ddrama hon a Theatr Fach Llangefni.
“Dros 45 mlynedd yn ôl, ym 1973, bu i Theatr Fach Llangefni, dan gyfarwyddyd J. O. Roberts, lwyfannu cynhyrchiad o’r ddrama, cyn perfformio addasiad Saesneg Huw Lloyd Edwards ohoni yng Ngŵyl Ddrama Ryngwladol Dundalk, yn Iwerddon fis Mai 1975, gan ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau.
“Aethant wedyn yr holl ffordd i’r Unol Daleithiau, i’w pherfformio yn yr International Theatre Olympiad yn Detroit y mis Mehefin canlynol. Wedi’r holl lwyddiant blaenorol, braint yw cael y cyfle i gyflwyno’r ddrama unwaith yn rhagor ar lwyfan Theatr Fach Llangefni,” ychwanegodd Llio.
Dilyna’r ddrama hanes Mac a Sadi,(Marlyn Samuel a Dafydd Roberts ) gŵr a gwraig a dau grwydryn sy’n cael y cyfle i fyw mewn tŷ, Pros Kairon, ar yr amod eu bod yn ei ddefnyddio ‘yn ôl eu doethineb.’
Mae tân mewn hostel cyfagos yn golygu bod Greta,(Lois Mererid) yr Hen Ŵr,(John Dilwyn Williams) Rolff a Rudi (Carwyn Jones ac Alun Lloyd Roberts) yn dod atynt i fyw.
Maent oll yn cyd-fyw yn gytûn nes y daw ymwelydd (Arwel Stephen) atynt, a rhoi syniadau yn eu pennau am sut i greu arian o’r ieir y maen nhw’n eu cadw.
Coda Pros Kairon gwestiynau am ariangarwch a materoliaeth, gan amlygu mor hawdd ydyw i ddyn anghofio’i holl foesau a’i egwyddorion a chyfiawnhau unrhyw beth pan fo elw i’w gael.
Gwna inni feddwl am gyflwr y byd sydd ohoni heddiw.
Unwaith y mae dyn yn ei chael yn hawdd cam-drin anifeiliaid, hawdd iawn ydyw iddo ddechrau trin ei gyd-ddyn yn yr un modd.
Dyma ddrama sy’n berthnasol i bob oes, a hynny am fod dyn yr un fath ym mhob oes.
Mae dyn yn cymryd mantais o’i amser ar y ddaear, yn cymryd pethau’n ganiataol ac yn gwneud difrod, heb feddwl am ganlyniadau hynny.
Ein hunig obaith yw y bydd y genhedlaeth nesaf yn fwy llwyddiannus.
I weld y ddrama hon yn cael ei pherfformio ar lwyfan Theatr Fach Llangefni am y tro cyntaf ers bron i hanner can mlynedd, dewch draw o 26-28 Mehefin.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7:30yh a tocynnau yn £8. Gostyngiadau i blant ac aelodau’r Theatr. Mae tocynnau ar gael trwy ffonio Menter Iaith Môn 01248 725700 neu yn siop Cwpwrdd Cornel Llangefni.