Arwisgiad Tywysog Cymru trwy lygaid unigryw Dafydd Iwan
HANNER canrif yn ôl roedd Caernarfon yn ferw gwyllt o gyffro gyda Arwisgiad y Tywysog Charles gan ei fam, y Frenhines Elizabeth II newydd gymeryd lle yn y castell.
Heidiodd miloedd o bob cwr o’r byd i dre’r Cofis i wylio ddigwyddiad na fu ei debyg cyn hynny nac yn wir wedyn. Roedd miliynau mwy yn gwylio’r digwyddiad ar y teledu.
Teimladau cymysg oedd gan rai gan eu bod yn gweld y digwyddiad fel cyfle euraidd i roi sglein ar y dre a’r ardal ar fap y byd. Ond ar yr un pryd roedd ymwybyddiaeth gref o genedlaetholdeb Cymreig gyda Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn prysur fagu stêm. Hyn oll i gefndir o derfysg dreisgar.
Fel rhan o’r cofio bydd S4C yn darlledu rhaglen ddogfen sy’n adrodd yr hanes trwy lygaid unigryw’r canwr a’r ymgyrchydd Dafydd Iwan.
Yn Dafydd Iwan: Y Prins a Fi nos Sul fe fydd Dafydd Iwan, un o ffigyrau amlyca’r mudiad cenedlaethol dros chwe degawd, yn mynd ar daith bersonol yn edrych yn ôl ar un o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol yr 20fed ganrif yng Nghymru.
Yn ogystal â chlywed atgofion pobl o’r dydd, bydd y rhaglen yn cynnwys stôr o archif arbennig o’r cyfnod.
Meddai Dafydd Iwan: “Dyna’r casineb mwyaf dwi ’di ei weld erioed mewn gwleidyddiaeth oedd yr ymateb i’r protestiadau yn erbyn yr arwisgo. Mi roedd pethau ffiaidd yn cael eu dweud a fy mywyd yn cael ei fygwth yn llythrennol ar bapur ac ar lafar.
“Ac yn anffodus roedd Charles yn cael ei roi i fyny fel symbol o burdeb a pherffeithrwydd a finna’ yn cael fy ngosod fel y diawl a’r gelyn cyhoeddus pennaf.”
Yn 1969 Dafydd Iwan oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn eironig doedd Dafydd ddim yn awyddus i roi gormod o sylw i’r arwisgiad gan ystyried ymgyrchu dros sicrhau hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yn llawer pwysicach.
Ond fe gafodd ei dynnu i fewn i’r ddadl ynglyn â’r arwisgiad. Mynegodd ei farn yn ei ganeuon protest dychanol, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg Nain’.
“Beth mae’n rhaid i ni gofio ydy bod o’n gyfnod o ddeffro ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac ail ddiffinio’n perthynas ni fel Cymry gyda Phrydain a gyda Lloegr.
“Roedd yr arwisgo yn gyfle gwych i ddweud, ‘Reit, dy’n ni ddim yn derbyn yr hen drefn yn ddi-gwestiwn.’ Mae hwn yn gyfle i ni ddweud dy’n ni ddim yn derbyn twyll Tywysog Cymru a orfodwyd wedi’r goncwest [Normanaidd]. Rydyn ni am dorri cwys ein hunain.’”
Cred Dafydd bod digwyddiadau’r
arwisgo wedi ysbrydoli cenhedlaeth o Gymry i ymgyrchu dros hawliau sifil, iaith a gwleidyddol y mae’r wlad yn eu mwynhau bellach.
Yn y rhaglen bydd yn cymharu’r dadlau chwyrn a’r ymrannu gwleidyddol ry’n ni’n profi heddiw yn sgil Brexit gyda’r hollti barn a fu nol yn 1969. Bydd hefyd yn holi ydy ein safbwyntiau ar y Frenhiniaeth yn parhau i rannu’r Cymry.
Ac er yn parchu Tywysog Charles am ei farn a’i werthoedd ar gadwraeth a dyfodol ecolegol y blaned, nid yw Dafydd wedi newid ei farn am yr arwisgo na’r teulu brenhinol.
“Dwi’n difaru dim ynglyn â’r ymgyrch arwisgo ond mae angen dangos i bobl y medrwch chi wrthwynebu rhywbeth yn ffyrnig, ond gwneud hynny heb gasineb. Mae’r arwisgo’n rhan o’n hanes ni, dros neu yn erbyn, mae’n rhaid i ni fynd gyda’r darn yna o’n hanes, ond does dim rhaid i ni wneud yr un camgymeriadau. Rhaid i ni symud ymlaen a dyna ydy’r peth pwysig.”
Y noson o’r blaen darelledwyd y ffilm ddogfen ‘Y Bomiwr a’r Tywysog’ wedi’i chyfarwyddo gan un o wneuthurwyr ffilm mwyaf adnabyddus Cymru, Marc Evans.
Yn ganolog i’r stori mae dau gymeriad cyferbyniol iawn - sef y Tywysog Charles, yn ifanc, dibrofiad a gafodd fagwraeth freintiedig os rhyfedd, a John Jenkins o gymoedd de Cymru yn wreiddiol, ac aelod o’r fyddin Brydeinig, a drodd i gynllwynio a gosod bomiau, gan godi ofn yng nghalon y sefydliad.
“Mae’r ffilm yn fwy na stori dau berson, mae’n ymwneud â diffinio’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr, perthynas a oedd yn gorfod newid.
“Mae’r cefndir o’r hyn a oedd yn digwydd yn rhyngwladol yn rhoi cyd-destun ehangach i’r ymgyrchoedd bomio. Roedd lleisiau’r gwledydd bach yn cael eu clywed drwy ymgyrchoedd uniongyrchol ledled y byd, ac fe glywyd hefyd llais Cymru.
“Ond, er gwaethaf yr ymdeimlad yma o newid cymdeithasol, fe wnaeth y sefydliad Prydeinig benderfynu cynnal seremoni ffug-hynafol a oedd yn anelu at ddiffinio lle’r teulu Brenhinol o fewn Prydain, a Chymru i’r dyfodol,” meddai Marc Evans.
Dafydd Iwan: Y Prins a Fi Nos Sul, Gorffennaf 7 am 8pm, S4C. Gyda Isdeitlau Saesneg. Bydd y rhaglen agael ar alw: s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Mae ffilm Marc Evans eisioes ar gael ar alw.