Annogaeth teulu yn arwain at gyhoeddi nofel gyntaf
BYDD gwraig ffarm wedi ymddeol o Wynedd yn lansio’i nofel gyntaf yr wythnos hon a hithau’n 76 mlwydd oed.
Ac mae Eirlys Wyn Jones wrthi’n brysur yn ysgrifennu ei ail nofel yn ogystal a straeon byrion.
Wedi blynyddoedd o weithio fel swyddog treth ym Mhorthmadog, gweithio mewn swyddfa cyfrifydd ym Mhwllheli, magu tri o blant a bod yn wraig ffarm, pan benderfynodd Eirlys ymddeol ryw ddwy flynedd yn ôl, doedd hi ddim yn fwriad ganddi o
gwbwl i gyhoeddi nofel.
Ond, gydag anogaeth ei gŵr, anfonodd y nofel at gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd llynedd a derbyniodd feirniadaeth gadarnhaol gan y beirniaid.
Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i ddawn Eirlys o gymeriadu ac o’i defnydd o iaith goeth.
Yn ôl un o’r beirniaid, Gareth Miles, gan Eirlys oedd Cymraeg gorau’r gystadleuaeth.
Roedd hynny’n ddigon i’w sbarduno i anfon ei gwaith at Wasg Carreg Gwalch er mwyn gweld a fyddai ganddyn nhw ddiddordeb yn ei chyhoeddi.
Golygydd Creadigol y wasg, Nia Roberts, oedd â’r dasg o’i darllen a chydweithio gydag Eirlys i sicrhau fod y nofel yn gweld golau ddydd.
Dywedodd: “Mae Pwy Ti’n Feddwl Wyt Ti? yn nofel rwydd iawn i’w darllen.
“Er mai syml yw’r stori, mae gweld cymeriad Delyth yn datblygu i fod yn wraig hyderus, dalentog a rhydd, ynghyd â dod i adnabod cymeriadau difyr eraill sy’n byw mewn comiwn cyfagos, yn ein sbarduno ni i gario ’mlaen i ddarllen, a chyrraedd diweddglo sydd â thro annisgwyl yn ei gynffon.
“Rydan ni’n mawr obeithio y bydd y nofel yn apelio at ddarllenwyr sy’n mwynhau stori dda, ac unrhyw un sydd erioed wedi dychmygu sut brofiad fyddai dianc o rigolau bywyd bob dydd.”
Gwraig ffarm ar fin troi’n hanner can mlwydd oed yw Delyth, prif gymeriad y nofel.
Mae rhywbeth yn ei chorddi.
Yn wraig fferm ers ei hugeiniau, mae’n teimlo bod ei bywyd wedi diflannu mewn cwmwl o ofalu am deulu a phlant, ac undonedd gwaith beunyddiol y fferm.
A hithau ar drothwy ei hanner cant mae wedi cael llond bol o weini ar eraill, a phan gaiff ffrae â’i chwaer sy’n codi hen grachod y gorffennol, mae’n penderfynu bod yn rhaid i rywbeth newid.
Daw i’r casgliad iddi gael digon ar ofalu a gweini ar bawb ac mae’n penderfynu fod angen iddi newid.
A hithau heb adael ei theulu ers iddi briodi, mae’n gadael nodyn byr i’w gŵr, cyn dal bws i Fangor a thrên i gyfeiriad y Waun.
Mewn cwch ar gamlas yn y Waun mae ei hantur yn cychwyn.
Cafodd Eirlys ei magu yn Rhosfawr a’r Ffôr, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa’r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non.
Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau.
Bu’n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed - a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol.
Mae Eirlys wrthi’n gweitho ar ei hail nofel, ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.
Bydd lansiad swyddogol y llyfr mewn digwyddiad arbennig yng Nghapel Pencaenewydd ger Pwllheli nos yfory.
Pwy Ti’n Feddwl Wyt Ti gan Eirlys Wyn Jones, Gwasg Carreg Gwalch, pris £7.99.