Dathlu ugain mlynedd fel artist proffesiynol
WRTH i’r Eisteddfod Genedlaethol barhau yn Sir Conwy yr wythnos hon mae’r gem flynyddol o adnabod ser y dyfol yn ei anterth.
Y bachgen ifanc gyda’r llais cryf neu’r eneth sy’n gallu cyrraedd y nodau uchaf yn ddi-ymdrech heb son am y llefarwyr bydd yn ein diddanu ar lwyfan a sgrin deledu yn y dyfodol.
Faint ohonom sy wedi dweud “Weles i o ar lwyfan Steddfod a mi ddywedes bryd hynny fe aiff yn bell”
Mae Eisteddfodau Cymru yn cynnig cyfle i berfformwyr fagu hyder a dysgu ei crefft mewn ffordd na sy’n bodoli yn unman arall.
Ac mae’r Brifwyl yn rhoi’r cyfle i’r rhai sy am fentro i yrfa perfformio proffesiynol brofi eu hunain.
Un o ddywediadau cyson Aled Sion, cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yw mai cychwyn y daith yw’r Eisteddfod. Mae#r ddau wyl yn cynnig gwobreuon gwerth chweil gyda ysgoloriaethau a chyfleon hyfforddi amhrisiadwy.
Dyna wnaeth Rhys Meirion dros ugain mlynedd yn ol.
A fynta’n wr priod gyda theulu ifanc daeth i ddealltwriaeth gyda’i wraig Nia y buasai’n rhoi cynnig ar ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilio yn 1996.
“Mi gytunwyd tasa fi ddim yn ennill y gystadleuaeth honno doedd na ddim siawns i mi fel canwr proffesiynol.
“Wel dyna fo. Mi gystadleuais ac mi wnes ennill ac mi es i’r Guildhall yn Llundain am ddwy flynedd i astudio canu y flwyddyn wedyn,” meddai.
Mae Rhys yn canu gydag apêl a naturioldeb mewn arddull gynnes bersonol, ble mae geiriau ac ansawdd delynegol yn flaenllaw.
Bellach mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfan yn canu ac yn cyflwyno ar y teedu a radio. Mae hefyd wedi cael y cyfle i gynorthwyo eraill i ddatblygu eu crefft drwy feirnadu ei hun yn y Brifwyl.
Yn Eisteddfod Sir Conwy mae Rhys wedi lansio albwm newydd o ganeuon, In Verita.
Hon yw’r bedwaredd CD i’w chyhoeddi gan Rhys Merion fel unawdydd ar label Sain.
Wrth gyflwyno’r albwm newydd dywedodd: “Mae’n anodd credu bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i mi droedio ar lwyfan Glyndebourne i ganu Edmondo yn Mannon Lescaut gan Puccini ar y degfed o Awst 1999. Fy ngorchwyl gyntaf un fel canwr proffesiynol.
“Mae’r Albwm yma, mewn ffordd, yn dathlu’r garreg filltir honno, ac yn gofnod o’r lais ar y pryd hwn yn fy ngyrfa drwy ddehongliadau o’r caneuon rwyf wedi bod yn eu canu mewn cyngherddau ar hyd y blynyddoedd, ond ddim wedi mynd ati i’w recordio hyd yma.
“Ar fy albwm gyntaf gyda Sain yn ôl yn 2001 fe dderbyniais, gyda gostyngeiddrwydd, y ganmoliaeth hon gan Gyfarwyddwr Cerdd Opera Genedlaethol Lloegr ar y pryd Paul Daniel.
“Meddai bryd hynny “It is rare enough to find a true tenor voice, but even scarcer is the singer who can use that instrument to communicate directly from his heart.”
“Rwyf wedi ceisio bod yn driw i’r geiriau caredig yma ar hyd y blynyddoedd, ac rwyf yn mawr obeithio bod hyn yn dod drosodd yn y perfformiadau ar yr albwm hwn.”
Dros y blynyddoedd mae Rhys wedi cael profiadau arbennig iawn o gael canu fel unawdydd yn rhai o adeiladau mwyaf eiconig y byd cerddorol.
“Llefydd fel Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Neuadd Albert yn Llundain, Ty Opera Sydney, Neuadd Carneige yn Efrog Newydd a llawer mwy.
“Ond yr un mor bwysig i mi yw cael canu mewn neuaddau bach, a chapeli ar hyd a lled Cymru, gan dderbyn y croeso cynhesaf Cymreig hwnnw na sydd mo’i debyg yn y byd.
“Mae’n bwrpasol, ac yn wir, yn hollol ddelfrydol, fod y cerddor eithriadol amryddawn, Brian Hughes, yn cyfeilio i mi ar yr albwm yma.
“Yn wir, deuawdau sydd yma rhyngom yn hytrach nag unawdau a chyfeiliant.
“Rwyf wedi bod yn ffodus eithriadol o gael athrawon a hyfforddwyr da ar hyd y blynyddoedd, ac rwyf yn hynod o ddyledus i bobl fel David Pollard, Gerald Martin Moore, Iris Dell’ Acqua, Phillip Thomas, Antony Legge, Mark Shanahan a mwy.
“Ond Brian Hughes sydd wedi bod yn gyson ar hyd y daith, ac rwyf yn ei deimlo’n fraint o’r mwya’ o’i gael fel athro, mentor ac fel ffrind i gyd -berfformio a mi yma,” meddai.
Mae’r albwm, In Verita, ar gael ar lable Sain, pris £12.98.