Caernarfon Herald

Disodli plant i Gymru ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939

- By ERYL CRUMP

FE wnaeth dechrau’r Ail Ryfel Byd 80 mlynedd yn ôl ysgogi adleoli miloedd o blant, phobl a sefydliada­u i fannau diogel yng Nghymru. Tridiau wedi i’r Prif Weinidog Neville Chamberlai­n gyhoeddi fod rhyfel yn bodoli rhwng Prydain ar Almaen cyrhaeddod­d bron i 2,000 o blant a’u hathrawon yn stesion rheilfford­d Bangor.

Cyfrifolde­b Gwasanaeth Gwirfoddol y Merched (WRVS) oedd dod o hyd i gartref i bob plentyn.

Gwirfoddol­odd rhai trigolion i gymeryd faciwî i’w cartrefi ond pan nad oedd digon o lety ar gael, defnyddiod­d yr awdurdodau bwerau gorfodol i wneud i berchnogio­n tai gymryd plant i mewn.

Ar ôl i Lerpwl ddioddef bomio trwm ym mis Mai 1940, gwelodd yr orsaf mwy o faciwîs yn cyrraedd .

Yn ogystal a’r stesion defnyddiwy­d llyfrgell Bangor’s hefyd gan y WRVS i dderbyn a gwirio’r plant yn feddygol cyn iddynt symud i gartrefi dros dro.

Gohiriwyd ailagor Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno ar ôl gwyliau haf 1939 “oherwydd dechrau’r rhyfel a’r canlyniad o dderbyn faciwîs i’r ardal”.

Am saith mis bu’r ysgol yn gweithredu sifftiau dwbl - disgyblion lleol yn mynychu yn y boreau a faciwîs yn y prynhawnia­u. Erbyn mis Tachwedd 1940 roedd tua 100 o faciwîs ar lyfrau’r ysgol, yn ogystal â 200 o blant lleol.

Llwyddodd saith o’r faciwîs basio’r arholiad 11+ ym 1942. Roeddynt wedi dod i’r ardal o Surrey, Middlesex, Eastbourne, Caerwrango­n, a Plymouth yn ogystal ag ochrau Lerpwl.

Yn ol llyfr log yr ysgol roedd y plant yn ymarfer “dril gwasgaru cyrch awyr” ym mis Gorffennaf 1940. Roedd pob un “yn y tai penodedig mewn tri neu pedwar munud”. Bythefnos yn

ddiweddara­ch cafodd y plant “ddril mwgwd nwy”.

Cafodd ysgolion cyfan eu hadleoli o Loegr i Gymru. Addysgwyd miloedd o faciwîs mewn ysgolion a chapeli lleol,

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lletyodd Gwesty Pen-y-Gwryd, yng nghesail yr Wyddfa ger Llanberis 35 o ddisgyblio­n o Ysgol Baratoi Lake House gyda’r prifathro Alan Hugh Williams ac athrawon eraill.

Roedd y disgyblion wedi symud i ddiogelwch Eryri ar ôl i’w byddin gymudo i’w hysgol.

I ddechrau roeddent yng Ngwesty’r Royal Victoria, Llanberis. Buont ym Mhen-y-Gwryd rhwng 1940 a 1943.

Ond nid plant yn unig a symudwyd, symudwyd adrannau’r Llywodraet­h gyfan gan gynnwys Cyllid y Wlad i Llandudno a’r Weinyddiae­th Fwyd i Fae Colwyn, ynghyd â chwmnïau yn gwneud gwaith rhyfel pwysig.

Cafodd sefydliada­u milwrol hefyd eu hadleoli a gweithredo­dd llongau o lynges yr Iseldiroed­d a ddadleolwy­d o Gaergybi.

Symudwyd gweithiau celf amhrisiadw­y o Lundain a Glannau Mersi i’w cadw’n ddiogel ym Mangor, Aberystwyt­h, Blaenau Ffestiniog a Chonwy. Bu’r BBC hefyd yn darlledu sioeau radio poblogaidd o Neuadd y Penrhyn, Bangor.

Yn yr un cyfnod yn union ar ôi’r rhyfel gychwyn sefydlodd Coleg Prifysgol Llundain labordai gwyddoniae­th mewn siop ym Mangor ar gyfer rhai o’i fyfyrwyr sydd wedi’u dadleoli.

Elfen ddiddorol o’r polisi i adleoli oedd y bwriad i ddefnyddio gwestai yn Llandudno a Llanrwst gan MI5 i guddio asiantau dwbl pe bai’r Natsïaid yn llwyddo i gyrraedd Prydain.

Defnyddwyd gwestai gwyliau glan mor i i berwylion eraill yn ystod y rhyfel.

Yng Nghyffordd Llandudno roedd y Gweinidog Bwyd yn aml yn aros yng Ngwesty’r Orsaf tra roedd ei weinidogae­th ym Mae Colwyn. Yno roedd cyflenwad bwyd Prydain yn ystod y rhyfel, gan gynnwys dogni, yn cael ei reoli.

Ac yn Llandudno Gwesty’r Imperial oedd Pencadlys yr Inland Refeniw yn ystod y rhyfel.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y defnydd a wnaethpwyd o adeiladau Gogledd Cymru yn ystod y rhyfel gyda ffon symudol.

Mae’r prosiect History Points wedi gosod codau QR arbennig mewn 40 lleoliad ledled Cymru sy’n galluogi defnyddwyr ffonau symudol ddarganfod y wybodaeth.

Dywedodd Rhodri Clark, golygydd HistoryPoi­nts: “Dechreuodd ein prosiect dynnu sylw at hanes gwacáu rhyfeddol lleoedd cyfarwydd yn ôl yn 2012. Rydym wedi cynnwys llawer mwy ers hynny.

“Rydyn ni’n gobeithio bod ein sylwadau, a luniwyd gyda chymorth llawer o haneswyr cyfrannol, yn helpu preswylwyr ac ymwelwyr i werthfawro­gi’r rôl a chwaraeodd Cymru fel lloches i gynifer o bobl, gwrthrycha­u a sefydliada­u.”

Ymhlith y cyfranwyr mae Adrian Hughes, o’r Home Front Museum yn Llandudno.

Meddai: “Mae llawer o bobl yn cysylltu gwacáu amser rhyfel â phlant yn cael eu hadleoli, ac yn sicr roedd miloedd lawer o faciwîs plant yng Nghymru ym mlynyddoed­d cynnar y rhyfel.

“Nid yw pobl yn sylweddoli bod Cyllid y Wlad yn gweithredu o westai mwyaf eiconig Llandudno, neu fod poliswyr diemwnt Gwlad Belg ym Mae Colwyn a Bangor wedi helpu Prydain i dalu am fewnforion hanfodol.”

Mae’r holl wybodaeth wedi’i mapio a gellir ei gweld ar y wefan HistoryPoi­nts.org

 ??  ?? ■ Faciwîs yn Birmingham yn mynd ar y tren i ardaloedd saff yn y wlad ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd
■ Faciwîs yn Birmingham yn mynd ar y tren i ardaloedd saff yn y wlad ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom