Drama deimladwy am ddementia yn ennill gwobr nodedig
GWOBREUWYD cwmni gofal sydd ag angerdd am y celfyddydau am eu partneriaeth â chwmni theatr wrth gynhyrchu drama deimladwy am ddementia.
Gwelodd dros 5,000 o bobl y ddrama, ‘Ŵy, Chips a Nain,’ a ysbrydolwyd gan breswylwyr Parc Pendine.
Yn seremoni wobrwyo ddisglair Celfyddydau a Busnes Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, cyflwynwyd y Wobr Celfyddydau, Busnes a Iechyd i Parc Pendine, sydd ag wyth cartref gofal yn Wrecsam a Chaernarfon. Llwyddodd y sefydliad hefyd i gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Busnes y Flwyddyn.
Taith genedlaethol y ddrama oedd y cynhyrchiad graddfa fawr fwyaf llwyddiannus yn hanes Cwmni Theatr Frân Wen.
Roedd yn taflu goleuni ar effeithiau’r cyflwr creulon fel y’i gwelir trwy lygaid ŵyr ifanc.
Ysgrifennwyd y ddrama gan y bardd a’r cerddor Cymraeg, Gwyneth Glyn a ymwelodd â chartref Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon i siarad â’r preswylwyr a’r staff fel rhan o’i hymchwil.
Roedd yn gyd-gynhyrchiad rhwng y cwmni theatr o Borthaethwy a Galeri Caernarfon.
Yn dilyn y perfformiad cyntaf yn Galeri, cafwyd 33 o berfformiadau eraill ledled Cymru mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys yr Wyddgrug, Bangor, Aberystwyth, Llanelli a Chaerdydd.
Noddwyd y cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a sefydlwyd gan Mario Kreft a’i wraig, Gill, i gefnogi mentrau celfyddydau a chymunedol.
Diolch i gefnogaeth ychwanegol gan raglen Culture Step Celfyddydau a Busnes Cymru, cynhaliodd Frân Wen sesiynau gweithdy theatr ‘Ŵy, Chips a Nain’ gyda phreswylwyr Bryn Seiont Newydd a’u teuluoedd.
Dywedodd Mario Kreft “Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y wobr bwysig hon gan Celfyddydau a Busnes Cymru ac rydym yn ddyledus iawn i Frân Wen am y gwaith gwych a wnaethant o’r cychwyn cyntaf hyd at ddiwedd y prosiect hyfryd hwn.
“Mae ein hymrwymiad dros amser i’r celfyddydau, y gymuned ac addysg yn ganolog i bopeth a wnawn yn Parc Pendine ac rydym yn ei weld fel ffordd o gyfoethogi bywydau ar draws y cenedlaethau, felly roedd y cynhyrchiad penodol hwn a’i thema yn gweddu’n berffaith.
“Mae’n debyg mai ni oedd y cwmni cyntaf yn y sector gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig i benodi artist preswyl bron i 30 mlynedd yn ôl ac rydym wedi cydweithredu’n gyson gyda cherddorfa Hallé ac Opera Cenedlaethol Cymru. Roeddwn yn arbennig o falch yn gynharach eleni i ddod yn Hyrwyddwr Cymunedol cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru.
“Roeddem yn gweld cynhyrchu ‘Ŵy, Chips a Nain’ fel cyfle mawr i gyfrannu o ran gwybodaeth ac arfer da a bod yn rhan annatod o’r cynhyrchiad nid noddwyr y ddrama yn unig.
“Roedd y ffaith bod y ddrama yn y Gymraeg hefyd yn bwysig oherwydd rydym wedi gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud pan ddarperir gofal ym mamiaith unigolyn, yn enwedig pan fydd ganddo ef neu hi ddementia, ac mae hynny wedi bod yn bwysig ar hyd yr adeg i ni yn Bryn Seiont Newydd.
“Mae pwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn cael ei adlewyrchu yn ein rhaglen gyfoethogi sy’n rhan allweddol o’n gwaith wrth ddatblygu staff.
“Fe wnaeth sgript arbennig Gwyneth Glyn a’r actio rhyfeddol ddenu cynulleidfaoedd a helpu i ddangos sut brofiad yw byw nid yn unig â dementia, ond hefyd i weld y cyflwr trwy lygaid bachgen ifanc.”
Dywedodd Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen: “Rydym wrth ein boddau i ennill y wobr. Er ein bod yn gweithredu mewn gwahanol ddiwydiannau, mae’r ddau ohonom yn rhannu gwerthoedd tebyg o ran ceisio cyfoethogi bywydau felly roeddem yn asio’n berffaith.
“Roedd yn bartneriaeth oedd yn wirioneddol yn gweithio ddwyffordd - caniatawyd mynediad gwerthfawr iawn i’n tîm artistig i ymgysylltu â phreswylwyr y ganolfan ofal a’u teuluoedd yn ystod datblygiad y cynhyrchiad Wy, Chips a Nain.
“Mae’n hynod bwysig bod ein gwaith yn adlewyrchu gwir fywyd a phrofiadau a does dim amheuaeth y byddai hyn wedi bod yn anodd iawn i’w gyflawni heb y bartneriaeth hon.
“Yn ogystal, roedd y gefnogaeth yn caniatáu i ni ddarparu gweithdai creadigol i 750 o blant ysgol, prosiect creadigol rhwng y cenedlaethau gyda’r preswylwyr a’u teuluoedd a pherfformio’r cynhyrchiad o ‘Wy, Chips a Nain’ i dros 5,000 o blant a’u teuluoedd mewn theatrau ledled Cymru, ein cynhyrchiad theatr mwyaf llwyddiannus erioed.
“Roedd yn enghraifft wych o sut y gall cynhyrchiad fod yn sbardun i gyfleoedd creadigol eraill.”
Ychwanegodd Nia Davies Williams, cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd, ei bod yn hanfodol bod tîm artistig Frân Wen wedi gallu ymweld ac arsylwi sut y mae dementia yn effeithio ar bobl a theuluoedd.