Y Barri, Cymru a’r Byd - pwy fydd yn cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni?
BYDD chwech o berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru yn cystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 yn Y Barri nos Wener. Mae eleni yn nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r Ysgoloriaeth wedi buddsoddi £60,000 yn nhalent pobl ifanc Cymru.
Yn ogystal â brwydro am y clod o ennill Ysgoloriaeth sy’n gysylltiedig â bas-bariton mwyaf blaenllaw’r byd ac ennill gwobr ariannol o £4,000 bydd enillydd eleni hefyd yn cael y cyfle i berfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi 2020.
Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn falch iawn o gyhoeddi’r elfen ryngwladol newydd.
Dewiswyd y chwech cystadleuydd gan banel o feirniaid yn dilyn eu perfformiadau ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.
Mae Cai Fôn Davies, 19, o Talwrn ger Llangefni yn gystadleuydd amryddawn a thoreithiog sydd wedi ymddangos droeon ar lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Ŵyl Gerdd Dant.
Profodd lwyddiant mewn sawl maes perfformio gan gipio Gwobr J. Lloyd Williams i Unawdydd Alaw Werin buddugol Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy a hynny ar ôl iddo ennill y gystadleuaeth cân werin yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Mae Cai yn fyfyriwr israddedig sy’n astudio Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Bangor.
Daw Rhydian Jenkins, 22, o Faesteg. Mae’r tenor yn fyfyriwr ôl-raddedig yn astudio llais a pherfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Profodd lwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol gan iddo ennill Gwobr Dr Aled Lloyd Davies i Unawdydd Cerdd Dant dros 21 yng Nghaerdydd yn 2018.
Daeth rhagor o lwyddiannau yn Sir Conwy wrth iddo gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd Tenor, Unawd Lieder o dan 25 oed a Gwobr Goffa y Fonesig Lady Herbert i unawdwyr Alaw Werin agored.
Mae Rhydian hefyd yn chwaraewr rygbi addawol i dîm Pontypridd yn uwch-gynghrair rygbi Cymru.
Daniel Calan Jones, 18, o Gaerdydd yw’r ieuengaf o’r cystadleuwyr eleni.
Yn aelod o Adran Bro Taf ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, mae Daniel wedi clocsio ers yn ifanc iawn.
Cipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth clocsio unigol i fechgyn Eisteddfod yr Urdd wyth gwaith yn olynol. Mae’n ddrymiwr i fand Wigwam sydd wedi bod yn brysur yn gigio dros gyfnod yr Haf.
Yn hannu o Gwm Gwendraeth mae Morgan Llewelyn-Jones, 19, yn gobeithio dilyn gyrfa ym myd y theatr.
Yn ogystal â chipio Gwobr Goffa Llew yn Eisteddfod yr Urdd eleni, fe aeth hefyd ymlaen i ennill Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
Wedi perfformio gydag Only Boys Aloud a chynyrchiadau Theatr yr Urdd mae hefyd yn aelod o’r Sbectol Haul gystadlodd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni.
Wedi derbyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Penglais, Aberystwyth a chyfnod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion mae Thomas Mathias, 23, yn fyfyriwr ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.
Bu’n ffodus o dderbyn Ysgoloriaeth ABRSM i astudio yn yr Academi. Perfformiodd fel rhan o gerddorfa ‘Tosca,’ cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru yn Dubai gyda Syr Bryn Terfel ym mis Ebrill 2019. Dros y blynyddoedd mae wedi perfformio ar lwyfannau ar draws Ewrop.
Mae Steffan Lloyd Owen o Bentre Berw, ger Llangefni yn Fas-Bariton sydd wedi profi llwyddiannau yng Nghymru a thu hwnt.
Enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 2015 i hybu gyrfa cantorion ifanc cyn cyflawni’r dwbl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef cipio Ysgoloriaeth Osbourne Roberts yn 2016 ac Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn 2018.
Gyda Thomas Mathias fe gafodd y cyfle i berfformio gyda Syr Bryn Terfel yn Dubai wrth i Opera Cenedlaethol Cymru lwyfannu Tosca yno yn 2019.
Mae Steffan ar ei bedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ac yn gobeithio parhau ei astudiaethau yn Llundain ar ôl graddio.
Y beirniad eleni yw Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd.
Meddai Morys Gruffydd, Cyfarwyddwr Dros Dro Eisteddfod yr Urdd: “Wrth ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu’r Ysgoloriaeth arbennig hon, mae’n braf cael edrych ’nôl ar lwyddiannau cystadleuwyr y gorffennol gan edrych i ddatblygu’r cyfleoedd i feithrin talent ifanc Cymru i’r dyfodol.
“Mae’r elfen ryngwladol newydd hon yn ddatblygiad cyffrous sy’n siŵr o roi hwb mawr i yrfaoedd ein perfformwyr ifanc gan roi help llaw iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd.”
Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sadwrn, Hydref 12 am 8pm.