Caernarfon Herald

Dewi’n ffarwelio a Pawb a’i Farn ar ôl 21 mlynedd

- GAN ERYL CRUMP

GYDA Phrydain ar fin pleidleisi­o mewn etholiad cyffredino­l mewn cwta pum mlynedd a’r ffreuo ynglyn a’r bwriad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau bydd rhifyn arbennig iawn o’r rhaglen drafod Pawb a’i Farn yn cael ei ddarlledu nos Lun nesaf.

Ond tra bo’r pynciau llosg yn debyg o gael eu trafod yn drwyadl gan y panelwyr ac ymateb brwd y gynulleidf­a yn debyg o fod yn un mor ffyrnig mae’r rhaglen yn arbennig am mai dyma fydd yr olaf i’r cyflwynydd Dewi Llwyd ei arwain.

Ar ol 21 mlynedd mae’n rhoi gorau i’r rhaglen sydd wedi bod cymaint rhan ei fywyd darlledu.

Dewi Llwyd yw’r trydydd i arwain y tradodaeth­au yn y rhaglen sy’n teithio i bob cwr o Gymru a thu hwnt yn ei dro i drafod materion y dydd.

“Dechreuodd y rhaglen gyda Gwilym Owen yn arwain y trafod ac ar ol un cyfres fe gymerodd Huw Edwards drosodd.

“Fe fu i Huw lywio’r rhaglen am bedair blynedd cyn i mi gymeryd drososs yn 1998,” meddai.

Cyflwynodd Dewi ei raglen gyntaf o Amlwch ym mis Tachwedd y flwyddyn honno ar adeg cythryblus i Gyngor Sir yr ynys.

Brysiodd i ddweud fod y rhaglen yn parhau. Diwedd y gyfres bresennol yw’r rhaglen a ddarlledir o Landudno am 9.30pm nos Lun nesaf.

“Dwi’n dal i fwynhau,” meddai Dewi. “Dwi wrth fy modd yn rhoi cyfle i bobl herio’r gwleidyddi­on a mynegi barn. Does dim byd wedi rhoi mwy o bleser i mi dros y blynyddoed­d na mynd allan i gwrdd â’r gwylwyr.

“Ond wrth i mi agosau at 40 mlynedd o wasanaeth gyda’r BBC y flwyddyn nesaf a gyda sialens newydd cyflwyno’r rhaglen Dros Ginio ar Radio Cymru” penderfyna­is dyma’r cyfle i drosgwlydd­o’r awenau i rhywun arall.

“Bydd cyfres newydd o Pawb a’i Farn yn y gwanwyn ac rwy’n dymuno’r gorau i’r cyflwynydd newydd pwy bynnag y bo,” meddai.

Nid oedd panelwyr rhaglen Llandudno yn hysbys wrth ir Herald Cymraeg sgwrsio gyda Dewi ar drothwy’r penwythnos diwethaf.

Felly, heblaw am Brexit a’r Etholiad Gyffredino­l rhestrodd Dewi’r pynciau sydd wedi eu codi yn gyson dros y blynyddoed­d gan gynulleidf­aoedd Cymru.

“Yn sicr y pynciau sydd bob amser yn codi yw dyfodol yr iaith, a oes angen datganoli pellach, a dyfodol y stryd fawr; mae swyddi mewn ardaloedd gwledig hefyd yn bwnc sydd wedi corddi dros y blynyddoed­d,” meddai.

Ychwanegod­d ei fod wedi mwynhau teithio o amgylch Cymru a dod i adnabod cynulleidf­aoedd amrywiol.

“Dwi’n bendant yn gweld gwahaniaet­h wrth deithio o ardal i ardal,” meddai Dewi.

Ymhlith y dwsinau o raglenni cofiadwy yn ystod y blynyddoed­d dywedodd Dewi fod dau yn arbennig yn sefyll allan.

Yn ystod y refferendw­m Ewropeaidd yn 2016 bu rhaglen lle roedd aelodau’r panel a chyfranwyr yn ffraeo gyda’i gilydd.

“Roeddwn i’n bryderus nad oedd gennym swyddogion diogelwch ac ar adegau roeddwn yn teimlo fy mod ar fin colli rheolaeth ar y rhaglen.

“Yn dilyn y rhaglen cefais ddau lythyr dienw yn dweud y dylid gwahardd Felix Aubel rhag ymddangos ar Pawb a’i Farn ac efallai y dylid cael cadeirydd newydd.

“Ond gwahanol iawn oedd barn rhywun arall a ddaeth ata i. Meddai, ‘Mae angen mwy o bobol fel Felix arnoch chi. Gormod o ‘Yes men’ ar y paneli ’ma!,’” meddai Dewi.

Roedd y rhaglen arall yn gofiadwy am resymau hollol wahanol.

Ymhlith y gynulleidf­a ym Mlaenau Ffestiniog roedd dynes oedd wedi cael dropyn gormod o’r ddiod gadarn cyn cyrraedd y neuadd.

Bu iddi dorri ar draws yn rheolaidd yn ystod y trafod ac yn herio gallu Dewi i gadw trefn.

Meddai Dewi: “Wnaeth hi ddim tawelu nes ein bod tua deg munud o’r diwedd. Roedd yn brofiad hunllefus i mi ond adloniant i’r rhai gartref, efallai!

“Daeth tair merch yn syth o’r gynulleidf­a ar ôl y sioe. ‘Mae’n ddrwg iawn gennym, Mr Llwyd, am yr hyn a ddigwyddod­d. Roedd ei hymddygiad yn warthus, ond dydy hi ddim o gwmpas fan hyn. ’medden nhw. ‘O ble mae hi’n dod yna?’ Atebais, gan ddychmygu rhywle ymhell o Blaenau. ‘O Trawsfynyd­d!’”

Yn ogystal â darlledu o bob cwr o Gymru, mae’r rhaglen wedi teithio y tu hwnt i Gymru ar hyd y blynyddoed­d. Mae Dewi wedi cyflwyno rhaglenni o Lerpwl, Llundain, Glasgow, Efrog Newydd a Washington DC.

“Roedd hynny’n brofiad braf iawn er mwyn cael llais a barn gwahanol ar faterion Cymru,” meddai.

 ??  ?? ■ Cyflwynydd Pawb a’i Farn yw Dewi Llwyd
■ Cyflwynydd Pawb a’i Farn yw Dewi Llwyd

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom