Caernarfon Herald

Hyder, nid cywirdeb, wnaiff gynyddu’r nifer sy’n siarad Cymraeg?

- BY ERYL CRUMP

MAE angen i siaradwyr Cymraeg fod yn fwy hyderus a sylweddoli nad yw gramadeg perffaith yn bwysig, meddai’r gweinidog Cymraeg.

Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan na ddylai boeni am gam-ddefnyddio treigladau tra’n siared neu ysgrifennu’r Cymraeg a dylid y pwyslais bellach fod ar feithrin hyder i siared ein hiaith.

Nod Llywodraet­h Cymru yw cael miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050 ac fe wnaeth ei sylwadau wrth gyflwyno’r ail adroddiad blynyddol Cymraeg 2050 ar y testun.

“Mae’r diffyg hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg yn anhygoel.

“Rhan o’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw cael pobl yng Nghymru i ddeall eu bod nhw’n siarad Cymraeg.

“Mae gennym ni rywun sy’n gweithio yma [yn ei swyddfa] a gafodd ei eni a’i fagu yn Nhregaron, sy’n siarad Cymraeg yn hollol rhugl, ac sy’n dweud wrthyf nad yw’n siarad Cymraeg.

“Y broblem yw sut rydyn ni’n cael pobl i dicio’r blwch cywir a bod â’r hyder i ddweud ‘mae fy Nghymraeg yn ddigon da.’

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n ei gwneud hi’n glir i bobl bod siarad Cymraeg, unrhyw Gymraeg, yn dderbyniol - does dim ots a ydyn nhw’n treiglo’n gywir ai peidio.”

Ochr yn ochr â’r targed o filiwn o siaradwyr, pwysleisio­dd fod gan y llywodraet­h darged i “ddyblu’r defnydd o Gymraeg yn ein cymunedau”.

“Mae’n rhan hanfodol o’n strategaet­h. Un o’r prif heriau yw bod llawer o bobl yn mynd trwy addysg gyfrwng Cymru ac yna mae’n cwympo i ffwrdd, felly mae’n sicrhau bod y rhai rhwng 16 a 18 oed yn parhau i siarad Cymraeg - dyna un o’r heriau mwyaf sydd gennym,” meddai.

Ychwanegod­d bod swyddogion yn parhau i ganolbwynt­io ar osod y sylfeini mewn nifer o feysydd penodol er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr, cynyddu defnydd, a rhoi’r seilwaith yn ei le i hwyluso hynny.

“Mae’n bwysig i gydnabod y ffaith nad yw ymdrechion i gynyddu nifer siaradwyr unrhyw iaith leiafrifol yn llwyddo dros nos. Y bwriad yw i’r gwaith hwn arwain at gynnydd yn ystod cyfnod nesaf y strategaet­h o 2021 ymlaen,” ychwanegod­d y gweinidog.

Nodwyd fod arwyddion cynnar yn awgrymu fod y Llywodraet­h ar y trywydd iawn i gyrraedd carreg filltir y flwyddyn nesaf o gael 24% o ddysgwyr mewn addysg Gymraeg.

“Ym mis Hydref 2018 fe wnes i hefyd gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg, sy’n gosod gweledigae­th i’r Gymraeg fod ar gael yn hawdd ym myd technoleg – rhywbeth sy’n hollbwysig o safbwynt defnydd o’r iaith mewn bywyd bob dydd – ac i genedlaeth­au’r dyfodol.

“Wrth gwrs mae rhai meysydd sydd angen rhagor o waith i’w datblygu. Rydym yn ymwybodol, er enghraifft, fod angen mynd i’r afael â materion o ran dilyniant plant rhwng y sectorau addysg cynradd ac uwchradd, ac o ran recriwtio athrawon, yn arbennig athrawon uwchradd,” meddai.

Mewn datblygiad arall mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r newyddion bod targedau wedi eu gosod ar golegau sy’n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr

Cymraeg am y tro cyntaf erioed.

Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraet­h o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 gan gynnwys gosod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau’r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: “Mae hyn yn sicr yn gam ymlaen ac yn newyddion calonogol; mae Kirsty Williams yn haeddu clod am gymryd y penderfyni­ad hwn.

“Ers blynyddoed­d bellach, rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraet­h i wella pethau o ran cynllunio’r gweithlu, dyma’r arwydd cyntaf eu bod yn dechrau gweithredu o ddifrif. Wedi’r cwbl, mae’r newidiadau hyn yn hanfodol er mwyn i’r Llywodraet­h gyrraedd targedau ei strategaet­h iaith ei hun.

“Wrth gwrs, bydd angen mynd yn bellach na’r targedau cychwynnol hyn, gan gynnwys gwneud y targedau hyn yn statudol a’u cynyddu dros amser. Mae angen strategaet­h benodol ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraet­h.

“Yn y strategaet­h honno, mae angen targedau statudol sy’n gyfrach na’r hyn sydd yn y llythyr yma ynghyd â mesurau megis cyflwyno rhaglen ddwys o hyfforddia­nt mewn swydd gwahaniaet­hol yn y gweithle ac i ymestyn cyrsiau hyfforddia­nt cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith.”

 ??  ?? ■ Y Farwnes Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg
■ Y Farwnes Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom