Cychwyn Cymreig i elusen cenedlaethol
MAE Dinas Oleu yn swatio uwchlaw tref Y Bermo yn edrych i lawr dros Fae Ceredigion ac i gyfeiriad Pen Llŷn; bryncyn eithinog lle roedd dechreuad i gorff sy’n gwarchod tir ac adeiladau hanesyddol ers 125 o flynyddoedd.
Ar Mawrth 29, 1895, daeth Dinas Oleu yn eiddo i‘r Ymddiredolaeth Genedlaethol – y darn cyntaf o dir i’w warchod am byth, i bawb.
Rhoddwyd y 4.5 erw o dir gan Mrs Fanny Talbot, tirfeddiannwr eithaf cefnog, cymwynaswraig a ffrind i Octavia Hill a’r Canon Hardwicke Rawnsley, dau o’n sefydlwyr.
Ganed Mrs Talbot yn 1824 yn Bridgwater, Gwlad yr Haf. Yn 1850 priododd George Tertius Talbot ac yn ddiweddarach ganed un mab, iddynt George Quartus (Chwarel) Talbot. Roedd y teulu bach yn byw ger eu rhieni yn Bridgwater.
Symudodd Mrs Talbot i Dy’n-yFfynnon, ar lethrau Dinas Oleu ar ôl i’w gŵr farw yn 1873, a bu iddi ymroi i waith dyngarol yn yr ardal.
Gwelai Mrs Talbot bwysigrwydd treftadaeth ein cenedl a lleoedd agored ac roedd yn awyddus i’w gwarchod fel y gallai pawb eu mwynhau; dyna hefyd oedd gweledigaeth sefydlwyr Yr
Ymddiredolaeth Genedlaethol wrth ffurfio’r elusen yn 1895.
Dros 120 o flynyddoedd wedyn, mae’r gwerthoedd hynny’n dal yn ganolog c mae’r corff yn parhau i ofalu am leoedd arbennig i bawb eu mwynhau.
Pan roddodd Mrs Talbot y darn hwn o dir, ychydig a wyddai y byddai’n tyfu i fod yn elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. O Ddinas Oleu, gallwch weld llawer o’r 58,000 erw o dir sydd dan ofalaeth yr Ymddiredolaeth Genedlaethol yn Eryri erbyn hyn, ynghyd â 196 milltir o lannau Cymru.
Ar y copa fe welwch lwyfan cerrig a adeiladwyd yn 1995 i ddathlu ei fod yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers canrif.
Dywedodd am ei rhodd: “Rwyf wedi bod eisiau sicrhau i’r cyhoedd am byth fwynhad Dinas Oleu, ond hoffwn ei roi yng ngofal rhyw gymdeithas na fydd byth yn ei fwlio nac yn atal natur wyllt rhag cael ei ffordd.
“Nid oes gennyf wrthwynebiad i lwybrau glaswelltog. neu seddi cerrig mewn lleoedd iawn ... ac mae’n ymddangos i mi fod eich cymdeithas wedi cael ei geni yn llysenw amser.”
Ond nid Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir i Mrs Talbot ei roi’n rhodd. Yn 1874, rhoddodd ddeuddeg bwthyn a 4.5 erw o dir i brosiect y beirniad celf dylanwadol John Ruskin, The Guild of St George.
Bwriad y prosiect oedd cywiro rhai o anghyfiawnderau cymdeithasol y dydd a gwneud y wlad yn lle hapusach a harddach i fyw a gweithio ynddi.
Parhaodd gohebiaeth Mrs Talbot â Ruskin tan 1889. Roedd y ddau yn chwaraewyr gwyddbwyll brwd ac yn chwarae gemau trwy ohebiaeth. Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd ganddynt roedd Urdd Sant Siôr a mab Talbot oedd wedi datblygu’n arlunydd uchelgeisiol.
Ysgrifennodd Ruskin am Mrs Talbot. “Mae hi’n ddynes famol, lachar, ddu-llygad o hanner cant… ac yn chwilfrydig y tu hwnt i unrhyw gamp a fu erioed, ond bob amser yn rhoi llwyau i ffwrdd yn lle eu dwyn.
“Yn ymarferol glyfar y tu hwnt i’r mwyafrif o ferched; ond os atebwch un cwestiwn bydd hi’n gofyn chwech i chi!”
Bu Mrs Talbot yn byw yn Ty’n-yFfynon
hyd at ei marwolaeth ym 1917. Roedd wedi rhannu ei chartref gyda’i ffrind Blanche Atkinson, a fu farw ym 1911. Mae plac coffa ar gyfer Talbot ar fur y tŷ erbyn hyn.
Ers y dyddiau cynnar hynny mae’r elusen wedi tyfu i fod yn elusen gadwraeth fwyaf Ewrop gyda bron i chwe miliwn o aelodau.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn edrych ar ôl mwy na 250,000 hectar o gefn gwlad, 780 milltir o arfordir a channoedd o leoedd arbennig ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn ystod y flwyddyn bydd cyfres o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu eu penblwydd arbennig. Ceir fwy o fanylion arlein, ewch i www. nationaltrust.org.uk/cy_gb/ days-out/cymru